Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Morfa Nefyn

Oddi ar Wicipedia
Morfa Nefyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNefyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.93°N 4.55°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH286402 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Nefyn, Gwynedd, Cymru, yw Morfa Nefyn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif rhyw filltir i'r gorllewin o dref Nefyn ar ffordd y B4417 ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Saif ar fae Porth Dinllaen sydd rhwng Trwyn Porth Dinllaen a Phenrhyn Nefyn.

Mae ganddo un dafarn a bad achub. Roedd yma waith brics o 1868 hyd 1906, ac ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur. Mae'n le poblogaidd i dwristaid oherwydd y cwrs golff a chyfleusterau hwylio.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Yn ôl y Cyfrifiad 2021, 72.3 y cant o'r trigolion dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg.[5] Adroddodd y Cyfrifiad 2011 fod 72 y cant dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. 5.0 5.1 "Iaith Gymraeg Newid yng nghanran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl ACEHI 2011 i 2021". MapDataCymru. Llywodraeth Cymru. 6 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 17 Mehefin 2024.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]