Galiwm
|
|
Galiwm mewn cynhwysydd
|
|
|
Symbol
|
Ga
|
Rhif
|
31
|
Dwysedd
|
5.91 g·cm−3
|
Elfen gemegol yn y tabl cyfnodol yw galiwm gyda'r symbol Ga
a'r rhif atomig 31. Mae'n fetel ôl-drosiannol sgleiniog, meddal ac arianaidd. Mae ganddo ymdoddbwynt isel am fetel, ac mae'r metel yn ymdoddi yn y llaw. Mae galiwm yn ffurfio nifer sylweddol o gyfansoddion yn cynnwys galiwm arsenid, sy'n ddeunydd defnyddiol ar gyfer deuodau allyrru golau ac yn y diwidiant electroneg.
Yn 1875 darganfuwyd galiwm (Lladin Gallia am ardal Gâl) gan Clemens Winkler. Un o'r elfennau a ragwelodd Dmitri Mendeleev oedd galiwm i lenwi bylchau yn ei dabl cyfnodol. Gan ei fod o dan alwminiwm yn y tabl, fe enwodd yr elfen yn eka-alwminiwm ac roedd canlyniadau'r astudiaethau o'r elfen newydd yn un o'r camau pwysicaf yn y llwybr i brofi pwysigrwydd y tabl cyfnodol a chyfnodedd.
Priodwedd |
Eka-alwminiwm |
Galiwm |
Mas cymharol |
tua 68 |
69.7 |
Dwysedd(g/cm3) |
6.0 |
5.91 |
Ymdoddbwynt (°C) |
isel |
29.8 |