Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Costa Rica

Oddi ar Wicipedia
Costa Rica
Gweriniaeth Costa Rica
República de Costa Rica (Sbaeneg)
ArwyddairEssential Costa Rica Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasSan José, Costa Rica Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,044,197 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd7 Tachwedd 1949 (Cyfansoddiad)
AnthemNoble patria, tu hermosa bandera Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRodrigo Chaves Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00, America/Costa_Rica Edit this on Wikidata
NawddsantVirgin of the Angels Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, Canolbarth America, America Sbaenig, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi Edit this on Wikidata
GwladCosta Rica Edit this on Wikidata
Arwynebedd51,179.92 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Caribî, Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPanamâ, Nicaragwa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau10°N 84°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Deddfwriaethol Costa Rica Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Costa Rica Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethRodrigo Chaves Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Costa Rica Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRodrigo Chaves Edit this on Wikidata
Map
Delwedd:LocationCostRica.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$64,616 million, $68,381 million Edit this on Wikidata
ArianCosta Rican colón Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.819 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.809 Edit this on Wikidata

Gwlad yng Nghanolbarth America yw Gweriniaeth Costa Rica neu Costa Rica. Mae'n rhannu ffin â Nicaragwa i'r gogledd ac â Phanama i'r de-ddwyrain. Mae'r Cefnfor Tawel yn gorwedd i'r gorllewin ac i'r de ac mae Môr y Caribî yn gorwedd i'r dwyrain. Diddymodd Costa Rica ei byddin ym 1949.

Roedd trigolion brodorol Costa Rica yn cynnwys y gwareiddiad Nahwatleg at Benrhyn Nicoya a dylanwadau Chibcha yn y de a'r canolbarth. Yr Ewropead cyntaf i gyrraedd oedd Christopher Columbus yn 1502. Daeth Costa Rica yn rhan o Ymerodraeth Sbaen, ond roedd yn llai llewyrchus na'r trefdigaethau Sbaenaidd eraill yng Nghanolbarth America. Ffurfiai Costa Rica ran fwyaf deheuol Sbaen Newydd, ymhell o brifddinas yr is-deyrnas, Dinas Mexico.

Yn 1821, ymunodd Costa Rica a threfedigaethau eraill Canolbarth America i gyhoeddi eu hanibynniaeth oddi wrth Sbaen. Wedi bod yn rhan o Ymerodraeth Mecsico am gyfnod byr, daeth Costa Rica yn un o daleithiau Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America o 1823 hyd 1839. Yn 1824, symudwyd y brifddinas i San José.

Yn 1838, cyhoeddodd Costa Rica ei bod yn gadael y Weriniaeth Ffederal a dod yn wlad annibynnol. Yn 1856, bu ymladd yn erbyn byddin William Walker, brodor o dde yr Unol Daleithiau, oedd wedi llwyddo i gipio grym yn Nicaragwa gyda byddin o hurfilwyr. Wedi ennill grym yno. ceisiodd Walker gipio Costa Rica hefyd. Ei fwriad oedd sefydlu trefn gymdeithasol debyg i dde yr Unol Daleithiau; yn Nicaragwa roedd wedi gwneud Saesneg yn iaith swyddogol a gwneud caethwasiaeth yn gyfreithlon. Gofynnodd yr Arlywydd Juan Rafael Mora Porras i'r Cadfridog José María Cañas Escamilla ffurfio byddin genedlaethol, ac ymladdwyd nifer o frwydrau yn erbyn byddin Walker, brwydrau Santa Rosa (4 Mawrth) a dwy frwydr Rivas 11 Ebrill 1856 ac 11 Ebrill 1857. Ar 1 Mai 1857, ildiodd Walker a gadawodd Ganolbarth America.

Bu rhyfel cartref byr yn 1948, pan arweiniodd José Figueres Ferrer wrthryfel yn dilyn etholiad arlywyddol y credid gan lawer fod y canlyniad yn amheus. Lladdwyd tua 2,000 yn y rhyfel. Enillodd y gwrthryfelwyr, ac wedi dod i rym, crewyd cyfansoddiad newydd. Ymhlith by newidiadau, gwnaed i ffwrdd a'r lluoedd arfog; y wlad gyntaf i wneud hynny. Etholwyd Figueres yn Arlywydd yn 1953.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd ffiniau Costa Rica â Nicaragwa gan Gytundebau Cañas-Jerez yn 1858 a Laudo Cleveland yn 1888, a gyda Panama gan gytundeb Echandi-Fernández yn 1941.

Mae Costa Rica yn wlad fynyddig, gyda'r rhan fwyaf o'i thiriogaeth rhwng 900 a 1800 medr uwch lefel y môr. Ceir tair prif gadwyn o fynyddoedd, y Cordillera Meridional, y Cordillera SubVolcanica de Madrid a'r Cordillera Trepadora. Ynghanol y wlad ceir y Valle Central ("Dyffryn Canolog"), lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw. Y copa uchaf yw Cerro Chirripó (3,820 medr), y pumed copa yng Nghanolbarth America o ran uchder. Yr uchaf o'r llosgfynyddoedd yw Irazú (3,431 m.).

Ceir nifer o ynysoedd oddi ar arfordir Costa Rica, yn cynnwys Ynys Cocos ac Ynys Calero.

Taleithiau

[golygu | golygu cod]

Rhennir Costa Rica yn saith talaith. Rhennir y taleithiau i 81 cantón, gyda maer yn gyfrifol am bob un. Rhennir pob cantón ymhellach i ardaloedd (distritos), 463 ohonynt i gyd.

Provincias de Costa Rica
  Talaith Prifddinas Cantonau Distritos Arwynebedd (km²) Poblogaeth*
1 Alajuela Alajuela 15 108 9.757,53 716.286
2 Cartago Cartago 8 48 3.124,67 432.395
3 Guanacaste Liberia 11 59 10.140,71 264.238
4 Heredia Heredia 10 46 2.656,98 354.732
5 Limón Limón 6 27 9.188,52 389.295
6 Puntarenas Puntarenas 11 57 11.265,69 357.483
7 San José San José 20 118 4.965,90 1.345.750

* Censo del año 2000

Eginyn erthygl sydd uchod am Costa Rica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.