Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Canolbarth America

Oddi ar Wicipedia
Canolbarth America
Enghraifft o'r canlynolisgyfandir Edit this on Wikidata
Poblogaeth180,095,918 Edit this on Wikidata
Rhan oYr Amerig, America Ladin, Gogledd America, De America Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGwatemala, El Salfador, Hondwras, Nicaragwa, Costa Rica, Y Caribî, Panamâ, Belîs Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Canolbarth America

Mae Canolbarth America yn rhanbarth ddaearyddol ar gyfandir yr Amerig sy'n gorwedd rhwng rhan ogleddol Gogledd America a De America. Mae'n gorwedd rhwng ffin ogleddol Gwatemala a ffin ogledd-orllewinol Colombia ac yn cynnwys tua 596,000 km² (230,000 milltir sgwâr) o dir. Mae'r tywydd yn drofaol ac mae'r rhanbarth yn dioddef corwyntoedd cryf weithiau.

Mae Canolbarth America yn cynnwys saith gwlad, o'r gogledd i'r de:

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae Canolbarth America yn rhanbarth fynyddig. Ceir nifer o losgfynyddoedd, yn cynnwys Tajumulco sy'n codi i 4210m (13,846'). Mae ei hardaloedd arfordirol yn ffrwythlon a thyfir nifer o gnydau, er enghraifft bananas, coffi a coco. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion o dras gymysg Ewropeiaidd a brodorol.

Cyn ymddangosiad yr Ewropeiaid cyntaf bu rhannau o Ganolbarth America yn gartref i wareiddiaid brodorol hynod, er enhgraifft penrhyn Yucatan. Syrthiodd y tir i feddiant Sbaen (ac eithrio Belîs ac ambell fan arall). Yn gynnar yn y 19g cafodd gwledydd y rhanbarth annibyniaeth ar Sbaen a ffurfiodd Costa Rica, El Salfador, Gwatemala, Hondwras a Nicaragwa Cynghrair Canolbarth America (neu 'Taleithiau Unedig Canolbarth America') (1823 - 1838). Yn 1960 ffurfiodd y gwledydd hyn Marchnad Gyffredin Canolbarth America.