Tudur Aled
Tudur Aled | |
---|---|
Ganwyd | 1465 Llansannan |
Bu farw | 1525 |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1480 |
Roedd Tudur Aled (c. 1465 - c. 1525) yn fardd Cymraeg sy'n cael ei ystyried gan lawer yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr. Ymddengys o'r marwnadau a ganwyd iddo gan feirdd eraill ei fod yn uchelwr ei hun.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganed y bardd ym mhlwyf Llansannan, yn awr yn Sir Ddinbych, ac ymddengys mai Robert oedd enw ei dad ac Ithel oedd enw ei daid. Ei athro barddol oedd ei ewythr, Dafydd ab Edmwnd. Roedd yn un o gomisiynwyr Eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1523. Ei brif noddwyr oedd teulu Salbriaid Lleweni, gerllaw Llansannan, ond crwydrodd trwy Gymru yn canu i uchelwyr a gŵyr eglwysig, megis Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy. Roedd Syr Rhys ap Thomas, a fu farw yn 1525, yn un o'i noddwyr, a chan na chanodd Tudur Aled farwnad iddo, credir ei fod wedi marw tua'r un adeg. Bu farw yng Nghaerfyrddin, efallai ar ymweliad â Syr Rhys yn ei lys yno.
Cerddi
[golygu | golygu cod]Roedd Tudur Aled yn fardd cynhyrchiol iawn ac yn feistr llwyr ar y gynghanedd a'r mesurau caeth. Cedwir o leiaf 125 o gywyddau ganddo, gyda chanran helaeth yn gerddi mawl. Roedd yn gwybod sut i ddefnyddio'r hen ddelweddau i'r dim ond arbrofai hefyd gyda delweddau a chyffelybiaethau newydd. Yn ogystal â'i werth llenyddol amlwg mae ei waith yn ddrych gwerthfawr i gyfnod o newid mawr ym mywyd Cymru.
Mae esgyll un o'i englynion wedi dod yn ddiarhebol:
- Hysbys y dengys y dyn
- O ba radd y bo'i wreiddyn.
Mawr fu'r golled ar ei ôl ymysg y beirdd. Canwyd marwnadau iddo gan Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog, Lewys Daron, Lewys Môn, Lewys Morgannwg, Morys Gethin, Raff ap Robert, Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan, a Siôn Ceri.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyhoeddwyd ei waith mewn dwy gyfrol:
- Gwaith Tudur Aled, wedi eu golygu gan T. Gwynn Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1926).
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd