Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

William Wyler

Oddi ar Wicipedia
William Wyler
Llun cyhoeddusrwydd o William Wyler (tua 1945).
Ganwyd1 Gorffennaf 1902 Edit this on Wikidata
Mulhouse Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1981 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Y Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Collector, The Children's Hour, Ben-Hur, The Big Country, Friendly Persuasion, The Desperate Hours, Roman Holiday, Carrie, Detective Story, The Heiress, The Best Years of Our Lives, Mrs Miniver, The Little Foxes, The Westerner, The Letter, Wuthering Heights, Jezebel, These Three Edit this on Wikidata
PriodMargaret Sullavan, Margaret Tallichet Edit this on Wikidata
PlantCatherine Wyler Edit this on Wikidata
PerthnasauCarl Laemmle, Cathy O'Donnell Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Golden Plate Award, Irving G. Thalberg Memorial Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Palme d'Or, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Golden Globes Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd o dras Almaenig oedd William Wyler (Willi Wyler; 1 Gorffennaf 190227 Gorffennaf 1981). Enillodd Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau, a'r Wobr am y Llun Orau, teirgwaith: Mrs Miniver (1942), The Best Years of Our Lives (1946), a Ben-Hur (1959). Roedd yn nodedig am ei gynigion trylwyr i dynnu lluniau golygfeydd hirion ar un tro.

Ganed Willi Wyler ym Mülhausen, yr Almaen Imperialaidd, i deulu Iddewig. Marsiandïwr o'r Swistir oedd ei dad, ac Almaenes. Cafodd ei ddiarddel o sawl ysgol oherwydd ei gamymddygiad. Fodd bynnag, cafodd ei dderbyn i'r École Supérieure de Commerce yn Lausanne, a dysgodd canu'r fiolin am gyfnod byr yn Conservatoire de Paris. Fe'i gwahoddwyd gan Carl Laemmle, pennaeth Universal Pictures a pherthynas bell ar ochr ei fam, i symud i Unol Daleithiau America i weithio i'r stiwdio. Aeth Wyler yn gyntaf i adran gyhoeddusrwydd Universal yn Efrog Newydd ym 1920 cyn iddo drosglwyddo i safle Universal City yn Nyffryn San Fernando, Califfornia, ac yno gweithiodd yn was swyddfa, gwas celfi, clerc sgriptiau, ac isgyfarwyddwr castio. Erbyn 1924, bu'n isgyfarwyddwr ar ffilmiau byrion ("dau rolyn") yn genre' Gorllewin Gwyllt, a chyfrannodd hefyd at ffilmio'r llun epig Ben-Hur: A Tale of the Christ (1925) dan gyfarwyddiaeth Fred Niblo.[1]

Ym 1925 cyfarwyddodd Wyler ei ffilm gyntaf, yn genre'r Gorllewin Gwyllt. Byddai'n cyfarwyddo rhyw hanner cant o ffilmiau dau-rolyn eraill yn y genre honno yn ystod ei yrfa. Ymhlith ei luniau mawr bu Jezebel (1938) ac addasiad o'r nofel Wuthering Heights (1939). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Wyler yn swyddog yng Nghorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau, a chyfarwyddodd y ffilm ddogfen The Memphis Belle.

Wedi'r rhyfel, cyfarwyddodd Wyler sawl ffilm boblogaidd, gan gynnwys The Heiress (1949), Detective Story (1951), Roman Holiday (1953), The Desperate Hours (1955), Friendly Persuasion (1956), a The Big Country (1958). Ei lun olaf oedd The Liberation of L.B. Jones (1970). Derbyniodd Wobr Goffa Irving G. Thalberg ym 1966 a Gwobr yr American Film Institute am Gyflawniad Oes ym 1976. Bu farw William Wyler yn Beverly Hills, Califfornia, yn 79 oed.

Year Film Category Result
Gwobrau'r Academi
Seremoni wobrwyo yr Academi 1936 Dodsworth Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1939 Wuthering Heights Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1940 The Letter Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1941 The Little Foxes Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1942 Mrs. Miniver Cyfarwyddwr Gorau Buddugol
Seremoni wobrwyo yr Academi 1946 The Best Years of Our Lives Cyfarwyddwr Gorau Buddugol
Seremoni wobrwyo yr Academi 1949 The Heiress Ffilm Orau Enwebwyd
Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1952 Detective Story Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1953 Roman Holiday Ffilm Orau Enwebwyd
Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1956 Friendly Persuasion Ffilm Orau Enwebwyd
Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1959 Ben-Hur Cyfarwyddwr Gorau Buddugol
Seremoni wobrwyo yr Academi 1965 The Collector Cyfarwyddwr Gorau Enwebwyd
Gwobr Irving G. Thalberg Buddugol
Urdd Cyfarwyddwyr America
1952 Detective Story Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol Enwebwyd
1954 Roman Holiday Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol Enwebwyd
1957 Friendly Persuasion Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol Enwebwyd
1959 The Big Country Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol Enwebwyd
1960 Ben-Hur Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol Buddugol[2]
1962 The Children's Hour Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol Enwebwyd
1966 Gwobr Cyflawniad Oes
1969 Funny Girl Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol Enwebwyd


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) William Wyler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.
  2. Sennett, Ted (1986). Great Movie Directors (yn Saesneg). New York: Abrams. t. 289. ISBN 978-0-8109-0718-8.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • A. Madsen, William Wyler: The Authorized Biography (1973).
  • M. Andregg, William Wyler (1979).
  • J. Herman, A Talent for Trouble: The Life of Hollywood's Most Acclaimed Director, William Wyler (1995).