Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Conservatoire de Paris

Oddi ar Wicipedia
Conservatoire de Paris
Mathgrande école, conservatoire Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 3 Awst 1795 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau48.8889°N 2.3908°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganBernard Sarrette Edit this on Wikidata

Coleg cerdd a drama a sefydlwyd ym 1795 ym Mharis, Ffrainc yw'r Conservatoire de Paris. Mae'n cynnig gwersi mewn cerddoriaeth, dawns, drama, darlunio a thradodiadau'r "Ysgol Ffrengig". Cafodd ei rannu'n ddau "Conservatoire" ym 1946, un ar gyfer actio, thatr a drama a adnabyddir fel y Conservatoire national supérieur d'art dramatique (CNSAD), a'r llall ar gyfer cerddoriaeth a dawns a adnabyddir fel y Conservatoire national supérieur de musique et de danse de Paris (CNSMDP).

Mae'r conservatories yn gweithredu o dan nawdd gan y Weinidogaeth Diwylliant a Chyfarthrebu.

Hen adeilad y Conservatoire (hyd 1911), sydd erbyn hyn yn gartref i'r CNSAD

Tarddiad

[golygu | golygu cod]

Gellir dilyn tarddiad y Conservatoire de Paris yn ôl i greadigaeth yr École Royale de Chant (Ysgol Frenhinol Canu) gan ordinhad Louis XIV ar 28 Mehefin 1669. Cafodd ei ail-ansoddi gan y cyfansoddwr François-Joseph Gossec ym 1784.

Ym 1793, cafodd yr École Royale ei gyfuno gyda ysgol cerddorion y Gwarchodlu Cenedlaethol, a'i ail-enwi yn yr Institut national de musique.

Ym 1795, sefydlwyd y National Convention yn ystod y Cylchdro Ffrengig, ail-sefydlwyd y conservatoire fel y Conservatoire national supérieur de musique, a dechreuodd 350 o ddisgyblion cyntaf y Conservatoire eu haddysg ym mis Hydref 1796.

Presennol

[golygu | golygu cod]

Erbyn yr 1940au, roedd y Conservatoire de Paris wedi tyfu i ddod yn un o'r mwyaf a'r mwyaf bri yn Ewrope. Ym 1946, rhanwyd y Conservatoire yn ddau; un ar gyfer cerdd a dawns, ac un ar gyfer y celfyddydau dramatig. Mae'r conservatories yn hyfforddi dros 1,200 o fyfyrwyr mewn rhaglenni wedi eu strwythuro, gyda 350 o athrawon mewn naw adran.

Y mynediad i'r CNSAD

Y Conservatoire national supérieur d'art dramatique yw'r conservatoire ar gyfer actio, drama, a theatr, ac adnabyddir gan ei acronym CNSAD.

Mae'r adeilad hanesyddol gwreiddiol y Conservatoire de Paris yn gartref i'r Conservatoire hon, ar y rue du Conservatoire, rue Sainte-Cécile yn 9fed arrondissement Paris. Rhoddir perfformiadau drama am ddim yn aml gan fyfyrwyr y CNSAD yn theatr y Conservatoire.

CNSMDP

[golygu | golygu cod]

Mae'r Conservatoire national supérieur de musique et de danse de Paris yn conservatoire ar wahân ar gyfer dawns. Adeiladwyd campws newydd gan lywodraeth Ffrainc, gyda phensaernïaeth cyfoes trawiadol, yn 19fed arrondissement Paris.

Adeiladwyd yr organ ar y safle ym 1991, gan gwmni o Awstria.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]