Picellwr pedwar nod
Picellwr pedwar nod | |
---|---|
Gwryw | |
Benyw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Libellulidae |
Genws: | Libellula |
Rhywogaeth: | L. quadrimaculata |
Enw deuenwol | |
Libellula quadrimaculata Linnaeus, 1758 |
Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Picellwr pedwar nod (Lladin: Libellula quadrimaculata; lluosog: picellwyr pedwar nod). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae'r Picellwr pedwar nod i'w ganfod yn Ewrop, Asia, a Gogledd America, lle caiff ei adnabod dan yr enw four-spotted skimmer'. Mae'r L. quadrimaculata hefyd i'w gael yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys rhannau o Gymru.
Hyd ei adenydd yw 48mm ac mae'n hedfan rhwng Ebrill a Medi yng Nghymru a rhwng Mai ac Awst yn Iwerddon. Gwelir yr oedolyn fel arfer ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Mae'n cymryd dwy flynedd i'r larfa (neu'r cynrhonyn) aeddfedu i'w llawn dwf. Pryfetach o bob math yw bwyd yr oedolyn.[1]
Y Picellwr pedwar nod yw pryfyn cenedlaethol Alaska.[2]
-
Benyw
-
Gwarchodfa natur Glascoed, Llanelwy
-
Hela
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.shgresources.com/ak/symbols/insect/ Archifwyd 2009-01-07 yn y Peiriant Wayback Adalwyd Chwefror 2010
- ↑ "FAQ ALASKA - Frequently Asked Questions About Alaska". sled.alaska.edu. 17 Ionawr 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-10. Cyrchwyd 28 Ionawr 2010.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Geiriadur enwau a thermau, Llên Natur, Cymdeithas Edward Llwyd.