Louis Brandeis
Louis Brandeis | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 1856 Louisville |
Bu farw | 5 Hydref 1941 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, cyfreithiwr |
Swydd | Associate Justice of the Supreme Court of the United States |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Alice Goldmark Brandeis |
Cyfreithiwr a barnwr o'r Unol Daleithiau oedd Louis Dembitz Brandeis (13 Tachwedd 1856 – 5 Hydref 1941) a fu'n un o ustusiaid Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau o 1916 i 1939.
Ganed yn Louisville, Kentucky, i fewnfudwyr Iddewig o Brag. Mynychodd yr ysgolion cyhoeddus yn Louisville a'r Annen Realschule yn Dresden, yr Almaen. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Harvard a derbyniodd ei radd, ar flaen ei ddosbarth, ym 1877. Aeth i St. Louis, Missouri, i drin y gyfraith am flwyddyn cyn iddo ymsefydlu yn Boston, lle'r oedd yn gweithio nes iddo gael ei benodi i'r Goruchaf Lys gan yr Arlywydd Woodrow Wilson ym 1916. Brandeis oedd yr Americanwr Iddewig cyntaf i eistedd ar fainc y llys. Ymddiswyddodd o'r llys ar 13 Chwefror 1939, a bu farw yn Washington, D.C. yn 84 oed.[1]
Enwir Prifysgol Brandeis yn Waltham, Massachusetts, ar ei ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Louis Brandeis. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Tachwedd 2020.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Jeffrey Rosen, Louis D. Brandeis: American Prophet (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2016).
- Genedigaethau 1856
- Marwolaethau 1941
- Barnwyr o'r Unol Daleithiau
- Cyfreithwyr y 19eg ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfreithwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfreithwyr Iddewig o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Harvard
- Pobl a aned yn Kentucky
- Pobl o Louisville, Kentucky
- Pobl fu farw yn Washington, D.C.