Franz Anton Mesmer
Franz Anton Mesmer | |
---|---|
Franz Anton Mesmer | |
Ganwyd | Franciscus Antonius Mesmer 23 Mai 1734 Iznang |
Bu farw | 5 Mawrth 1815 Meersburg |
Man preswyl | Paris, Fienna, Frauenfeld |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Addysg | Meddyg Meddygaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, magnetizer, seryddwr |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Maximilian Hell |
Tad | Anton Mesmer |
Mam | Maria Ursula Mesmer |
Priod | Anna Maria von Posch |
Perthnasau | Joseph Conrad Mesmer, Franz von Posch |
Gwobr/au | dinasyddiaeth anrhydeddus |
llofnod | |
Meddyg o'r Almaen oedd Franz Anton Mesmer (23 Mai 1734 – 5 Mawrth 1815) sydd yn nodedig am ddamcaniaethu magnetedd anifeilaidd (mesmeriaeth).[1]
Ganed ym mhentref Iznang, ar lannau'r Bodensee, ger Konstanz, a oedd yn esgob-dywysogaeth yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Fienna dan diwtoriaeth yr Iseldirwyr Gerard van Swieten ac Anton de Haen. Ymddiddorodd Mesmer mewn seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth, ac yn ei draethawd ymchwil (1766) tynnodd yn drwm ar waith Richard Mead wrth ddadlau bod atyniadau disgyrchol y planedau yn dylanwadu ar iechyd dynol drwy effeithio ar hylif anweladwy sydd i'w ganfod y tu mewn i bethau byw.
Ym 1775 newidiodd Mesmer ei ddamcaniaeth o "ddisgyrchedd anifeilaidd" yn "fagnetedd anifeilaidd", gan honni bod yr hylif anweladwy yn y corff yn rhwym wrth ddeddfau magneteg. Dadleuodd taw rhwystrau i lif yr hylif sydd yn achosi salwch, a bod modd cael gwared â'r rhwystrau drwy fwrw'r claf i berlewyg. Ar sail ei ddamcaniaeth, datblygodd Mesmer ddull therapiwtig o drin cleifion mewn sesiynau egnïol a oedd yn anelu at achosi deliriwm a chonfylsiynau er mwyn adfer cytgord hylifol y corff.
Aeth Mesmer i Baris ym 1778, wedi i'w gyfoedion yn Fienna ei gyhuddo o grachfeddygaeth, ac yno ailsefydlodd ei bractis. Denodd nifer fawr o gleifion a chefnogwyr i'w syniadau, yn ogystal â gwrthwynebiad oddi wrth gyd-feddygon. Ym 1784 penododd y Brenin Louis XVI gomisiwn o wyddonwyr a meddygon, yn eu plith Benjamin Franklin ac Antoine-Laurent Lavoisier, i archwilio dulliau Mesmer. Dyfarnodd y comisiwn nad oedd tystiolaeth wyddonol i brofi tybiaethau Mesmer, a dirywiai'r mudiad wedi hynny. Bu farw Franz Mesmer ym Meersburg, Uchel Ddugiaeth Baden, yn 80 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Franz Anton Mesmer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2021.