Donatello
Donatello | |
---|---|
Cerflun o Donatello tu allan i'r Uffizi, Fflorens | |
Ganwyd | Donato di Niccolò di Betto Bardi 1386 Fflorens |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1466 Fflorens |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens |
Galwedigaeth | cerflunydd, arlunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Beddrod Giovanni Pecci, Putti Reggicandela, Dafydd, Croeslun Santa Croce, Zuccone |
Arddull | celfyddyd grefyddol, portreadaeth farchogol, portread, paentiad mytholegol |
Mudiad | y Dadeni Cynnar |
Arlunydd a cherflunydd o'r Eidal oedd Donato di Niccolò di Betto Bardi, mwy adnabyddus fel Donatello (c. 1386 - 13 Rhagfyr, 1466).
Ganed ef yn Fflorens tua 1386, yn fab i Niccolo di Betto Bardi. Bu'n gweithio fel gôf aur yn Rhufain am gyfnod. Dychwelodd i Fflorens, a chynorthwyodd Lorenzo Ghiberti gyda cherfluniau o'r proffwydi ar gyfer y Battistero di San Giovanni. Yn 1409-1411, ef oedd yn gyfrifol am y cerflun enfawr o Sant Ioan Efengylwr, ac yn 1411-1413 bu'n gweithio ar gerflun o Sant Marc.
Rhwng 1415 a 1426, gwnaeth bum cerflun i'r campanile Donatello Santa Maria del Fiore yn Fflorens, a adwaenir fel y Duomo. Rhwng 1425 a 1427, bu'n gweithio gyda Michelozzo ar gerflun ar fedd y Gwrth-bab Ioan XXIII.
Tua 1430, cafodd gomisiwn gan Cosimo de' Medici i weneud y ceflun o'r brenin Dafydd, yn awr yn y Bargello; hwn yw gwaith enwocaf Donatello. Alltudiwyd ef o Fflorens am gyfnod, a bu yn Rhufain hyd 1433, pan ddychwelodd i Fflorens, lle bu'n gyfrifol ,am lawer o weithiau eraill. Yn 1443, galwyd ef i Padova gan etifeddion y condottiero enwog Erasmo da Narni, oedd newydd farw, i wneud cerflun ohono. Daeth y cerflun, o Erasmo ar gefn ceffyl, yn batrwm i lawer o gerfluniau cyffelyb.
Dychwelodd Donatello i Fflorens yn 1453, a bu farw yno yn 1466. Claddwyd ef yn y Basilica San Lorenzo.