Brwynen babwyr
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | brwynen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Juncus effusus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Ddim wedi'i restru: | Comelinidau |
Urdd: | Poales |
Teulu: | Juncaceae |
Genws: | Juncus |
Rhywogaeth: | J. effusus |
Enw deuenwol | |
Juncus effusus Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
|
Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon sy'n edrych yn debyg i wair yw Brwynen babwyr sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Juncaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Juncus effusus a'r enw Saesneg yw Soft-rush.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Brwynen Babwyr, Cannwyll Frwynen, Canwyllfrwynen, Pabwyren.
Mae'n tyfu'n araf iawn - a hynny ar bridd da, cyfoethog, mewn pob math o amrywiaeth o ran gwlybaniaeth eu cynefin; mae i'w ganfod yn aml mewn gwlyptiroedd. Mae'r planhigyn yn ddeurywiol ac mae'r dail yn fytholwyrdd.
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Un o'r pryfed mwyaf cyffredin i'w weld yn gysylltiedig â'r frwynen babwyr yw cloriau bach lindys y gwyfyn Coleophora caespitella sydd â chylch bywyd lled unigryw sy'n cynnwys amddiffyn y lindys mewn cocŵn bapuraidd symudol.
Traddodiadau
[golygu | golygu cod]- Morthwyl sinc
Gwneir nifer o deganau plant o frwyn (y frwynen babwyr yw'r debycaf o gael ei defnyddio), gyda gemau sydd wedi datblygu ohonynt, er enghraifft, cychod hwylio, ac weithiau, ratl babi. Mae enw astrus ar yr ail o rhain, sef "morthwyl sinc". Mae'r grefft o'u gwneud yn marw o'r tir, ond dyma'r diweddar Bert Parry yn sôn am grefft ei blentyndod:
Dyma drawsgrifiad o bwt allan o recordiad a wnaed o sgwrs ym mis Rhagfyr 2009 gyda Bert Parry, am atgofion ei blentyndod yn Llanberis.
D: Welist ti yn Llên Natur [Rhifyn 9] am y Dinpan Foresg ...beth ddoth i dy feddwl di?
- Bert: ...oni'n gneud mothwl sinc, mothwl sinc dan i’n ddeud 'de - rattle yn Saesneg -
D: Tegan plentyn ydi hwn ia?
- Bert: Ia neu'n addurn hefyd..wedi ei wneud allan o frwyn, well efo ŷd wrth reswm, mae o'n gletach ac yn well...a tydwi'm yn gwbod lle ddysgish i i wneud, dwi di 'neud o ers pan o'n i'n hogyn bach...
D: Pam ‘sinc’ dwad?
- Bert: Dwi’m yn gwbod. Tasa na frwyn yn fa'ma faswn i gwneud un rwan i chdi - eiliad faswn i yn ei wneud o....dwi'n dal i gofio sut i neud o, plethu'r brwyn, cael brwyn go dda, go hir...rhoi cerrig neu beth bynnag i mewn iddo fo...efo yd mae'n gneud swn gydol yr amser a fedri di farnisho nhw ...ond efo brwyn mae nhw'n mynd yn feddal a ma'r sŵn yn mynd allan ohonyn nhw ac mae nhw'n hongian ac yn mynd yn fler...
Dywedodd Bert hefyd ei bod hi’n amhosibl i wneud morthwyl sinc o ŷd bellach gan nad yw ŷd yn tyfu’n ddigon tal, cymaint o fridio a fu ar gyfer had ar draul coes[2]
Dyma ddetholiad o ddwy ran arall o'r recordiad a wnaed o Bert yn sôn am ei ardal enedigol o gwmpas Llanberis tua diwedd ei oes.[3]
Mae'n bosibl bod y morthwyl sinc neu gleciwr plentyn yn rhan o draddodiad byd-eang. Fe'i hadnabyddir yn y Wyddelig fel gogán neu 'googhaun'. Meddai'r hanesydd Wyddelig Ann O'Dowd (cyfieithiad):
- Y cleciwr (rhuglen) wedi ei wneud o frwyn neu wiail helyg gawsai’r sylw mwyaf o’r holl degannau. Credai Estyn Evans[4] bod y clecwyr Gwyddelig o'r un gwneuthuriad sylfaenol â'r rhai o Tseina o wneuthuriad gwair wedi ei gordeddu. Roedd Dorothy Hartley[5] yn gyfarwydd â chlecwyr ym Mhrydain. Bu John O’Leary yn ysgolfeistr yn Ballyfarna, Claremorris, Swydd Mayo, yn y 1940au a 1950au. Fe roes y clecwyr a wnaethpwyd gan ei ddisgyblion i’r amgueddfa ac fe ddisgrifiodd y dull a ddefnyddiodd y plant i’w gwneud yn O’Dowd 2016[6]
Dyma Andrew Hawke [7]
- Rwy'n credu mai 'tin rattle' yw ystyr 'morthwyl sinc', gw. [1] - rhai ohonynt yn debyg iawn i forthwyl!
- Mae 'sinc' yn digwydd yn aml am 'tin, tinplate'. Mae 'morthwyl sinc' ddigon cyffredin i gael ei ddefnyddio mewn diffiniadau tair erthygl yn GPC (ratl, rhegen(2), sgrad) fel y Gymraeg sy'n cyfateb i'r Saes. '(baby's) rattle'.
- Mae'r erthygl yn y Bwletin (The Bulletin Of The Board Of Celtic Studies)(sy'n rhy hen i fod ar gael ar lein, gyda llaw) yn sôn am 'Ymadroddion a gwerin-eiriau Cwm Abergeirw': "mwrthwl sinc: [morthwyl s.], 'baby's rattle'."
- Cannwyll frwyn
- Pennill o waith y diweddar Evan Evans, Nant Melai, yn dweud sut i wneud cannwyll frwyn:
- Y Gannwyll Frwyn
- Hel brwyn, rhyw ddyrnaid
- A'u blingo gan adael cynhaliaeth
- Yna eu tynnu trwy ferwedig wer dafad
- A'r ganwyll frwyn fydd yn ganlyniad.[8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Bwletin Llên Natur rifyn 11, tudalen 3
- ↑ https://llennatur.cymru/Llais
- ↑ Evans, E. (1957) Irish Folk Ways
- ↑ Hartley, 1939
- ↑ O’Dowd, A. (2016) Straw, Hay & Rushes in Irish Folk Tradition (Irish Academic Press)
- ↑ A. Hawke (Gol. Geiriadur Prifysgol Cymru (sylw pers. ebost)
- ↑ Diolch i Mrs Eirwen Johnson, Abergele, [gynt o Wytherin] am anfon y bennill uchod at bapur bro y Bedol