Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Cyfystyr (tacsonomeg)

Oddi ar Wicipedia
Madfall ddŵr Bosca, aelod o'r urdd Caudata neu Urodela. Mae'r gair Lladin Caudata a'r gair Groeg Urodela ill dau'n golygu "gyda chynffon", ac wedi'u defnyddio dros y blynyddoedd fel geiriau gwyddonol, swyddogol. Dywedir, felly, fod Caudata a Urodela yn gyfystyron.

Cyfystyr (tacsonomeg) (Saesneg: synonym) ydy enw gwyddonol sy'n cyfeirio at grwp o organebau (neu tacson) sydd, bellach, ag enw gwahanol.

Er enghraifft defnyddiodd naturiaethwr o'r enw Linnaeus yr enw gwyddonol "Pinus abies" (y gair cyntaf am y math hwn) ar goeden a elwir yn Saesneg yn "Norway spruce"[1]. Does neb yn defnyddio'r hen enw hwnnw bellach; cyfystyr ydy'r gair o'r gair gwyddonol, cydnabyddiedig, swyddogol Picea abies.

Yn wahanol i ystyr arferol y gair "cyfystyr", nid ydym yn defnyddio'r cyfystyron hyn yn lle'r gair cydanbyddedig; hen eiriau ydyn nhw nas defnyddir, bellach. Un term cywir sydd, a'r enw gwyddonol yw hwnnw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]