Afon Xingu
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Brasil |
Gwlad | Brasil |
Cyfesurynnau | 11.9385°S 53.5466°W, 1.5242°S 51.8671°W |
Aber | Afon Amazonas |
Llednentydd | Afon Iriri, Afon Culuene, Afon Acarai, Afon Jaraucu, Afon Suia Missu |
Dalgylch | 513,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,640 cilometr |
Arllwysiad | 9,680 metr ciwbic yr eiliad |
Afon ym Mrasil sy'n un o lednentydd afon Amazonas yw Afon Xingu neu Rio Xingu.
Ceir tarddle afon Xingu yn rhan ogleddol uchedir talaith Mato Grosso, lle mae afon Ronuro ac afon Culuene yn cyfarfod. Mae'n llifo tua'r gogledd am tua 1,980 km trwy daleithiau Mato Grosso a Pará, cyn ymuno a'r Amazonas ger Porto de Moz.
Tua diwedd y 1980au, datblygodd llywodraeth Brasil gynlluniau i adeiladu argae ar yr afon i gynhyrchu trydan. Bu cryn brotest yn erbyn y cynllun oherwydd ei effaith ar y bobl frodorol, a bu'n rhaid iddynt roi'r gorau iddo. Yn y blynyddoedd diwethaf, adfywiwyd y cynllun gan lywodraeth Lula da Silva.