Cranford (nofel)
Miss Matty a Peter | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Elizabeth Gaskell |
Cyhoeddwr | Household Words |
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1851 |
Dechrau/Sefydlu | 1851 |
Genre | Ffuglen, Nofel |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Mae Cranford yn un o nofelau mwyaf adnabyddus yr awdur Saesneg o'r 19eg ganrif, Elizabeth Gaskell. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf, yn afreolaidd, mewn wyth rhan, rhwng Rhagfyr 1851 a Mai 1853, yn y cylchgrawn Household Words, a olygwyd gan Charles Dickens. Yna fe'i cyhoeddwyd, gyda mân adolygiad, ar ffurf llyfr ym 1853.[1]
Yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Elizabeth Gaskell daeth y nofel yn hynod boblogaidd.[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae tref wledig fychan Cranford yn cyfateb i Knutsford, Sir Gaer, lle'r oedd Elizabeth Gaskell wedi treulio llawer o'i phlentyndod a lle dychwelodd ar ôl iddi briodi. Fodd bynnag daw adroddwr y stori o ddinas ddiwydiannol gyfagos Drumble, sy'n cyfateb i Fanceinion, lle'r oedd yr awdur yn byw wrth ysgrifennu'r nofel.[3]
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Nid oes gan y gwaith unrhyw blot go iawn. Mae'n gasgliad o frasluniau dychanol, sy'n portreadu'r newid mewn arferion a gwerthoedd trefi bach yn Lloegr Oes Victoria.[4] Mae Gaskell yn edrych yn ôl at atgofion o’i phlentyndod yn nhref fechan Knutsford. Mae Cranford yn bortread serchog yr awdur am bobl ac arferion a oedd eisoes yn ddechrau troi'n anacroniaethau.[5]
Mae hanesion y llyfr yn cael eu hadrodd gan Mary Smith, merch ifanc sy'n ymweld â'r dref yn aml. Pan fo Mary i ffwrdd o'r dref mae'n parhau i fod yn ymwybodol o ddigwyddiadau yno trwy ohebiaeth â rhai o'r cymeriadau eraill.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Mary Smith - Yr adroddwr. Dim ond gwybodaeth gyfyngedig a roddir inni amdani. Mae Mary yn fenyw ifanc a arferai fyw yn Cranford ond sydd bellach yn byw gyda'i thad dyn busnes yn ninas gyfagos Drumble. Mae hi'n aros yn aml gyda Miss Matty.
- Miss Matty Jenkyns - Dynes ddi-briod oedrannus hawddgar, addfwyn, ond braidd yn swil.
- Miss Deborah Jenkyns - Chwaer hŷn Miss Matty. Dynes drahaus ac awdurdodus, sy'n marw yn gynnar yn y nofel.
- Miss Pole - Honnir mai hi yw'r mwyaf "rhesymol" a "goleuedig" o holl ferched Cranford.
- Yr Anrhydeddus Mrs Jamieson - Gwraig weddw â chysylltiadau pendefigaidd a pherchennog Carlo, ei chi annwyl. Ar y raddfa gymdeithasol hi yw'r person pwysicaf yn Cranford.
- Mrs Forrester - Gwraig weddw arall.
- Betty Barker - Cyn-felinydd, sy'n berchen ar fuwch y mae hi'n ei charu fel merch.
- Peter Jenkyns - Brawd Matty Jenkyns, sy'n diflannu'n gynnar yn y nofel, ar ôl iddo gael ei guro gan ei dad. Yn dilyn hynny, mae Mary Smith yn darganfod ei fod yn dal yn fyw ac yn ysgrifennu ato. Ar ddiwedd y nofel mae Peter yn dychwelyd o India ac yn cael ei aduno gyda'i chwaer.
- Thomas Holbrook - Ffermwr bywiog a chwilfrydig ei feddwl, a oedd yn gyn-edmygydd Miss Matty. Mae'n marw flwyddyn ar ôl taith i Baris.
- Capten Brown - Capten yn y fyddin, dyn tlawd sy'n dod i fyw i Cranford gyda'i ddwy ferch.
- Miss Brown - Merch hynaf y Capten Brown.
- Miss Jessie Brown - Merch iau Capten Brown. Ar ôl marwolaethau ei thad a'i chwaer, mae'n priodi ac yn gadael Cranford.
- Major Gordon - Ffrind i'r Capten Brown sydd wedi bod mewn cariad â Jessie Brown ers blynyddoedd.
- Arglwyddes Glenmire - Chwaer yng nghyfraith wael, weddw Mrs Jamieson. Mae hi'n priodi Dr Hoggins er mawr siom i ferched Cranford.
- Dr Hoggins - Llawfeddyg Cranford. Dyn garw ond cyfeillgar ac ystyrlon. Mae merched Cranford yn ystyried ei fod ef a'i gyfenw'n ddi-chwaeth.
- Martha - morwyn Miss Matty, sydd yn meddwl y byd o'i meistres. Yn ddiweddarach, ar ôl i Matty golli'r rhan fwyaf o'i harian, Martha yw ei landlord a'i chydymaith. Mae Matty yn byw gyda hi ar delerau cyfartal.
- Jem Hearn - Y dyn ifanc mae Martha yn priodi.
- Mr Mulliner - Bwtler Mrs Jamieson
- Signor Brunoni - consuriwr teithiol.
- Signora Brunoni - Gwraig y consuriwr teithiol, a deithiodd ar droed ar draws India i achub bywyd ei merch fach.
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Mae'r nofel wedi cael ei haddasu deirgwaith ar gyfer y teledu gan y BBC. Darlledwyd y fersiwn gyntaf ym 1951, yr ail ym 1972, gyda Gabrielle Hamilton fel Miss Matty, a'r drydedd fersiwn yn 2007. Ychwanegodd fersiwn 2007 ddeunydd o ysgrifau eraill gan Gaskell: My Lady Ludlow, Mr Harrison's Confessions a The Last Generation in England. Cymerodd Judi Dench ac Eileen Atkins y rolau blaenllaw fel Miss Matty a Miss Deborah Jenkyns, gydag Imelda Staunton yn cael ei gastio fel cariwr clecs y dref, Miss Pole, a Michael Gambon fel cyn edmygydd Miss Matty, Mr Holbrook. Darlledwyd dilyniant y BBC, Return to Cranford, yn 2009.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peter Keating, "Cyflwyniad" i argraffiad Penguin o Cranford (1976). (Llundain, 1986).
- ↑ Peter Keating, "Introduction", t.9.
- ↑ Michell, Sheila (1985). "Cyflwyniad" i The Manchester Marriage. UK: Alan Sutton. t. iv-viii.
- ↑ Denisoff, Dennis (2004). The Broadview Anthology of Victorian Short Stories. Canada: Broadview Press. t. 123.
- ↑ Wright, Edgar. "Elizabeth Cleghorn Gaskell". Dictionary of Literary Biography.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cranford (1951) (TV) ar wefan Internet Movie Database
- (Saesneg) Cranford (1972) (TV) ar wefan Internet Movie Database
- (Saesneg) Cranford (2007) ar wefan Internet Movie Database
- Uglow, Jenny (3 Tachwedd 2007). "Band of women". The Guardian. UK. Cyrchwyd 2007-11-06.