Cicely Hamilton
Cicely Hamilton | |
---|---|
Ganwyd | Cicely Mary Hammill 15 Mehefin 1872 Paddington, Sussex Gardens |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1952 Chelsea |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | nofelydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, actor, swffragét, newyddiadurwr, golygydd |
Adnabyddus am | William – an Englishman |
Ffeminist ac actores o Loegr oedd Cicely Hamilton (15 Mehefin 1872 - 6 Rhagfyr 1952) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, gohebydd ac fel swffragét a ymgyrchai dros etholfraint a hawliau merched drwy sgwennu ac actio.
Erbyn heddiw, caiff ei hadnabod yn bennaf am ei drama How the Vote was Won sy'n darlunio person gwrywaidd gwrth-ffeministaidd yn cael troedigaeth pan mae'r menywod yn ei fywyd yn mynd ar streic. Hi hefyd a sgwennod y ddrama hynod boblogaidd A Pageant of Great Women (1909), sy'n cynnwys y cymeriad Jane Austen fel un o'r "Merched Dysgedig".[1][2][3]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganed Cicely Mary Hamilton (née Hammill) yn Paddington, Llundain ar 15 Mehefin 1872; bu farw yn Chelsea. Hi oedd yr hynaf o bedwar o blant Maude Mary a Denzil Hammil. Cafodd ei haddysgu ym Malvern, Swydd Gaerwrangon ac yn Bad Homburg vor der Höhe, tref fechan yn nhalaith Hessen, yr Almaen. Magwyd Hammill gan rieni maeth oherwydd i'w mam fynd ar goll. Ar ôl cyfnod byr o addysg bu'n gweithio mewn cwmni teithiol. Newidiodd ei henw i "Cicely Hamilton" ac ysgrifennodd ddrama, a oedd yn cynnwys themâu ffeministaidd, a mwynhaodd gyfnod o lwyddiant yn y theatr fasnachol. Cafodd Hamilton ei chanmol am ei bod yn actio mewn perfformiad o Fanny's First Play gan George Bernard Shaw.[4][5][6][7][8][9]
Y theatr
[golygu | golygu cod]Yn 1908 sefydlodd Bessie Hatton a hithau Urdd Etholfraint Awduron Benywaidd (Women Writers' Suffrage League). Yn fuan wedi hynny roedd ganddyn nhw 400 o aelodau, gan gynnwys: Ivy Compton-Burnett, Sarah Grand, Violet Hunt, Marie Belloc Lowndes, Alice Meynell, Olive Schreiner, Evelyn Sharp, May Sinclair a Margaret L. Woods. Cyhoeddai'r urdd bamffledi i hyrwyddo'u achos, ac ymunodd rhai dynion a gytunai gyda hawliau cyfartal i ferched.
Ysgrifennodd eiriau i "The Mawrth of the Women", i dôn a gyfansoddwyd gan Ethel Smyth yn 1910 ar gyfer Undeb Gymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union).[10]
Yn y dyddiau cyn y radio a'r teledu, un ffordd effeithiol o unrhyw gredo i gymdeithas oedd drwy faledi, neu drwy gynhyrchu dramâu byrion y gellid eu perfformio o amgylch y wlad, ac felly ganwyd 'dramâu etholfraint'. Ystyrir Votes for Women gan Elizabeth Robins a How the Vote Was Won gan Cicely Hamilton a Christopher St. John fel y ddau mwyaf nodweddiadol o'r genre hwn.
Ysgrifennodd Hamilton hefyd A Pageant of Great Women, drama a hyrwyddai'r achos dros bleidlais i ferched, drama hynod lwyddiannus a oedd yn seiliedig ar syniadau ei ffrind, y cyfarwyddwr theatr, Edith Craig.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [11][12]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cicely Hamilton, Independent Feminist", Frontiers: A Journal of Women Studies, Vol 11 No. 2/3 1990
- ↑ Lisa Shariari, "Hamilton, Cicely" in Faye Hammill, Ashlie Sponenberg and Esme Miskimmin (ed.), Encyclopedia of British Women's Writing, 1900-1950. Basingstoke : Palgrave Macmillan, 2006. ISBN 9781403916921 (tt. 105-6)
- ↑ Looser, Devoney (2017). The Making of Jane Austen. Baltimore, MD: Johns Hopkins University Press. t. 169. ISBN 1421422824. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ (yn en) Hamilton [née Hammill, (Mary) Cicely (1872–1952), writer and campaigner for women's rights | Oxford Dictionary of National Biography]. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-38633. http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-38633.
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb110655155. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. https://en.wikipedia.org/wiki/Cicely_Hamilton.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb110655155. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb110655155. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Cicely Hamilton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb110655155. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Cicely Hamilton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Miss Cicely Hamilton". The Times. rhifyn: 52489. tudalen: 10. dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 1952.
- ↑ Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Bennett, Jory (1987). Crichton, Ronald (gol.). The Memoirs of Ethel Smyth: Abridged and Introduced by Ronald Crichton, with a list of works by Jory Bennett. Harmondsworth: Viking. t. 378. ISBN 0-670-80655-2.
- ↑ Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Aelodaeth: http://spartacus-educational.com/Wwspu.htm.