Llên gwerin Cymru
Y Celtiaid |
---|
Llwythau eraill |
Rhanbarthau hynafol |
Mytholeg Oidelig |
Ieithoedd Celtiaid |
Prif fudiadau gwleidyddol |
Llenyddiaeth Gymraeg |
---|
Rhestr llenorion |
Erthyglau eraill |
WiciBrosiect Cymru |
Mae llên gwerin Cymru yn enw cyfleus am y corff amrywiol o chwedlau, traddodiadau, coelion ac arferion poblogaidd sy'n rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol y wlad. Mae Cymru yn un o'r gwledydd Celtaidd a cheir elfennau yn ei llên gwerin sy'n gyffredin i'r gwledydd hynny. Ceir yn ogystal nifer o elfennau a elwir yn 'fotifau llên gwerin rhyngwladol' ac sydd i'w gweld mewn sawl diwylliant arall. Yn ogystal wrth gwrs mae digon o nodweddion cynhenid Gymreig yn y gwaddol diwylliannol a elwir heddiw yn 'llên gwerin Cymru' (mae'r cysyniad o 'lên gwerin', a'r enw ei hun, yn rhywbeth cymharol newydd).
Ffynonellau
Ceir sawl enghraifft o draddodiadau llên gwerin gan Nennius yn ei lyfr Historia Brittonum, a ysgrifenwyd tua dechrau'r 9g. Mae motifau llên gwerin yn britho rhyddiaith Cymraeg Canol a cheir sawl cyfeiriad yng ngwaith y beirdd yn ogystal, e.e. mewn rhai o'r cerddi yn Llyfr Taliesin ac yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr.
Dim ond yn gymharol ddiweddar yr aethpwyd ati i gasglu a chyhoeddi chwedlau gwerin Cymru. Yn Saesneg cafwyd cyfrolau fel The Cambrian Popular Antiquities gan Peter Roberts (1815). Un o'r llyfrau cyntaf yn y Gymraeg yw Ystên Sioned (1882), ond cyn hynny cafwyd nifer o erthyglau yn y cylchgronau Cymraeg. Sefydlwyd Y Genhinen i hyrwyddo astudiaethau llên gwerin a diogelu traddodiadau Cymru.
Chwedlau
Bodau goruwchnaturiol
Gwrachod Cymru
Ceir sawl chwedl a thraddodiad am wrachod yn llên gwerin Cymru. Y ffigwr enwocaf efallai yw Ceridwen yn Hanes Taliesin, sy'n berwi pair llawn o berlysiau'r maes i gael hylif gwybodaeth ac Awen i'w rhoi i'w fab Afagddu (ond mae'n debyg mai duwies oedd Ceridwen yn wreiddiol ac nid yw manylion eraill ei phortread yn cyfateb i'r darlun o'r wrach draddodiadol). Yn chwedl Peredur fab Efrog, un o'r Tair Rhamant, ceir Naw Widdon Caerloyw (mae gwiddon yn hen air am 'wrach').
Diddorol hefyd yw hanes Gwrachod Llanddona, criw o wrachod maleisus ym Môn. Math o ddrychiolaeth a gysylltir â chorsydd a lleoedd tebyg oedd Gwrach y Rhibyn.
Cymeriadau eraill
Llyfryddiaeth ddethol
- J. Ceredig Davies, Folk-lore of West and Mid-Wales (1911)
- D. Silvan Evans (gol.), Ystên Sioned (1882)
- Hugh Evans : Y Tylwyth Teg (Lerpwl 1935; sawl argraffiad ar ôl hynny)
- Glasynys : Straeon Glasynys, gol. Saunders Lewis (Clwb Llyfrau Cymreig, 1943). Gyda rhagymadrodd defnyddiol.
- Evan Isaac, Coelion Cymru (Clwb Llyfrau Cymreig, 1938)
- E. Wyn James a Tecwyn Vaughan Jones (gol.), Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, Cyfrol 1 (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- John Jones (Myrddin Fardd), Llên Gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908). Casgliad arloesol.
- T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (Caergrawnt, 1930 ; adargraffiad diwygiedig, 1979). Arolwg cynhwysfawr ac awdurdodol.
- Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959)
- William Rowland, Straeon y Cymry (Gwasg Aberystwyth, 1962)
- William Rowlands, Chwedlau Gwerin Cymru (Rhydychen, 1923)