Cantrefi a chymydau Cymru
Llinellau agoriadol rhan o Lyfr Coch Hergest, sef rhestr o gymydau (chwith) a chantrefi. | |
Enghraifft o'r canlynol | erthygl sydd hefyd yn rhestr |
---|---|
Gwladwriaeth | Cymru |
Unedau cwbl naturiol, organaidd oedd y rhaniadau Cymreig hyn, seiliedig ar nodweddion y tir yn bennaf. Dichon eu bod yn hŷn yn y bôn na'r hen deyrnasoedd eu hunain ac yn ogystal mae'r rhan fwyaf ohonynt yma o hyd fel unedau eglwysig.
Rhestrir isod y cantrefi a'r cymydau fesul teyrnas draddodiadol, er mwyn hwylustod. Sylwer bod y termau "cantref" a "chwmwd" yn annelwig braidd yn y llyfrau Cyfraith; dichon bod rhai o'r cymydau yn greadigaethau lled-ddiweddar fel unedau gweinyddol.
Ar Ynys Môn:
Ar dir mawr Gwynedd:
- Cantref Arllechwedd
- Cantref Arfon
- Cantref Llŷn
- Cantref Dunoding
Ychwanegwyd Penllyn ar ddechrau'r 13g a Chantref Meirionnydd yn 1256. Daeth arglwyddiaeth Dinmael yn rhan o Wynedd Uwch Conwy yn ddiweddarach yn ogystal.
- Arwystli
- Caereinion
- Cedewain
- Colunwy
- Cyfeiliog (cwmwd)
- Cynllaith
- Dinmael (arglwyddiaeth led-annibynnol)
- Edeirnion (rhan o deyrnas Gwynedd yn ddiweddarach)
- Iâl
- Llannerch Hudol
- Maelor
- Mawddwy (cwmwd: rhan o Sir Feirionnydd yn ddiweddarach)
- Cantref Mechain
- Cantref Meirionnydd
- Cantref Mochnant
- Nanheudwy
- Cantref Penllyn (ym meddiant Powys i ddechrau ond yn rhan o Wynedd yn y 13g)
- Is Tryweryn
- Is Meloch (sef plwyf a maenor Llandderfel)
- Uwch Meloch (sef plwyfi Llanfor a Llangywer)
- Uwch Tryweryn (a alwyd hefyd yn "Mignant")
- Is Tryweryn
- Ystrad Alun (ym meddiant Powys Fadog weithiau)
- Penarlâg (rheolaeth ysbeidiol)
- Yr Hob (rheolaeth ysbeidiol)
- Yr Wyddgrug (neu Ystrad Alun)
- Ystrad Marchell
- Cantref Buellt
- Ceri (cwmwd)
- Cwmwd Deuddwr
- Cantref Elfael
- Gwerthrynion (cwmwd)
- Llwythyfnwg (cwmwd)
- Cantref Maelienydd
- Cantref Cemais
- Cantref Pebidiog
- Cantref Rhos
- Cantref Daugleddau
- Cantref Penfro
- Cantref Gwarthaf
- Emlyn
- Emlyn Is Cuch (Cilgerran)
- Emlyn Uwch Cuch
- Cantref Penweddig
- Cantref Uwch Aeron (ystyrid Cantref Penweddig yn rhan o ardal Uwch Aeron yn aml)
- Cantref Is Aeron
- Y Cantref Mawr
- Mabelfyw
- Mabudryd
- Gwidigada (Widigada)
- Catheiniog
- Maenor Deilo (Maenordeilo)
- Mallaen
- Caeo (Caio)
- Y Cantref Bychan
- Cantref Eginog
- Cantref Selyf
- Cantref Tewdros (neu'r Cantref Mawr)
- ?Pencelli (mae enw'r trydydd gantref yn ansicr)
De-ddwyrain Cymru (Morgannwg, Glywysing a Gwent)
[golygu | golygu cod]Mae'r sefyllfa yn y de-ddwyrain yn cael ei gymhlethu gan y ffaith nad oes gennym lawer o fanylion am ffiniau'r terynasoedd cynnar a hefyd am fod y Normaniaid wedi meddiannu rhan helaeth yr ardal yn gynnar a chreu eu harglwyddiaethau eu hunain yno.
Ardal Morgannwg
[golygu | golygu cod]- Cantref Gwrinydd
- Cantref Gorfynydd
- Cantref Penychen
- Glyn Rhondda (Glynrhondda)
- Meisgyn
- Cantref Senghennydd (neu'r Cantref Breiniol)
- Erging (rhan o Swydd Henffordd yn ddiweddarach)
- Cantref Gwynllŵg
- Gwent Is Coed
- Gwent Uwch Coed
- Ewias (Ewias Lacy) - cwmwd ar y ffin rhwng Brycheiniog, Gwent a Swydd Henffordd
- Cantref Coch - cwmwd rhwng yr afonydd Gwy a Hafren
Rhestr cantrefi a chymydau Llyfr Coch Hergest
[golygu | golygu cod]Hanes Cymru |
---|
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
WiciBrosiect Cymru |
Yn ystod y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol roedd Cymru yn cael ei rannu'n wleidyddol yn bedair teyrnas fawr, sef Gwynedd, Powys, Deheubarth a Morgannwg. Roedd eu hanes yn ddigon cyfnewidiol ar adegau, â'u tiriogaeth yn ehangu neu'n crebachu neu'n cael ei rhannu'n unedau llai (fel yn achos Powys a rennid yn Bowys Fadog a Phowys Wenwynwyn, er enghraifft), ond er i'r teyrnasoedd hyn ddiflannu eu hunain yn sgîl dyfodiad y Normaniaid a'r gwncwest Seisnig, goroesodd eu hunedau sylfaenol, sef cantrefi a chymydau Cymru.Yn Llyfr Coch Hergest (1375-1425) ceir rhestr o'r cantrefi a'r cymydau a luniwyd ar ddiwedd y 14g, yn ôl pob tebyg.[1] Fodd bynnag, er ei bod yn ddogfen hanesyddol bwysig mae'r rhestr yn codi mwy o broblemau nag y mae'n datrys. Mae'r gwendidau amlwg yn cynnwys y ffaith fod y rhestr yn amwys iawn mewn rhannau ac yn cynnwys enwau lleoedd sy'n anodd i'w dehongli a'u lleoli'n foddhaol. Yn yr adran ar Wynedd, er enghraifft, lleolir Dinmael yn Llŷn a rhennir cantref Arfon yn ddau gwmwd "Is Conwy" ac "Uwch Conwy," ond nid yw Arfon yn gorwedd ar Afon Conwy ac mae'n amlwg fod yr ysgrifennwr wedi camddeall hen raniad sylfaenol teyrnas Gwynedd, sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (rhaniad oedd wedi peidio bod erbyn ei gyfnod ef). Rhaid cofio hefyd fod yr hen drefn wedi ei disodli gan y siroedd newydd dros ran helaeth y wlad. Yn ogystal mae orgraff y rhestr yn eithriadol fympwyol hyd yn oed yn ôl safonau llawysgrifau'r Oesoedd Canol. Rhoddir y testun yma yn yr orgraff wreiddiol gyda'r enwau mewn orfraff safonol lle bo hynny'n ymarferol.
- Cantref Tegigyl (Cantref Tegeingl):
- Kymwt Insel (Cwmwd Insel : Cwmwd Cwnsyllt)
- Kymwt Prestan (Cwmwd Prestatyn)
- Kymwt Rudlan (Cwmwd Rhuddlan)
- Cantref Dyffryn Clwyt (Cantref Dyffryn Clwyd):
- Kymwt Colyan (Cwmwd Colion)
- Kymwt Llannerch (Cwmwd Llannerch)
- Kymwt Ystrat (Cwmwd Ystrad) (camleoliad : yng nghantref Rhufoniog)
- Cantref Rywynyawc (Cantref Rhufoniog)
- Kymwt Rhuthyn (Cwmwd Rhuthun : Cwmwd Dogfeiling) (camleoliad : yng nghantref Dyffryn Clwyd)
- Kymwt Uch Alech (Cwmwd Uwch Aled)
- Kymwt Is Alech (Cwmwd Is Aled)
- Cantref Rhos
- Kymwt Uch Dulas (Cwmwd Uwch Dulas)
- Kymwt Is Dulas (Cwmwd Is Dulas)
- Kymwt y Kreudyn (Cwmwd y Creuddyn)
- Cantrefoed Môn
- Kymwt Llan Uaes (Cwmwd Llan-faes : Cwmwd Dindaethwy)
- Kymwt Kemeis (Cwmwd Cemaes : Cantref Cemais)
- Kymwt Talebolyon (Cwmwd Talybolion)
- Kymwt Aberffraw (Cwmwd Aberffraw : Cantref Aberffraw)
- Kymwt Penn Ros (Cwmwd Penrhos : Cwmwd Twrcelyn)
- Kymwt Rosvyrr (Cwmwd Rhosyr : Cwmwd Menai)
- Cantref Arllechwed (Cantref Arllechwedd)
- Kymwt Treffryw (Cwmwd Trefriw : Cwmwd Arllechwedd Isaf)
- Kymwt Aber (Cwmwd Aber : Cwmwd Arllechwedd Uchaf)
- Cantref Aruon (Cantref Arfon)
- Kymwt Uch Konwy ("Cwmwd Uwch Conwy" : Cwmwd Uwch Gwyrfai)
- Kymwt Is Conwy ("Cwmwd Is Conwy" : Cwmwd Is Gwyrfai)
- Cantref Dinodyn (Cantref Dunoding)
- Kymwt Rifnot (Cwmwd Rifnod : Cwmwd Eifionydd)
- Kymwt Ardudwy (Cwmwd Ardudwy)
- Cantref Llyyn (Cantref Llŷn)
- Kymwt Dinmael (Cwmwd Dinmael) (camleoliad : fe gymysgwyd cymydau Dinllaen a Dinmael)
- Kymwt is Clogyon (Cwmwd Is Clogion : Cwmwd Cafflogion)
- Kymwt Cwmdinam (Cwmwd Cwm Dinam : Cwmwd Cymydmaen)`
- Cantref Meiryonyd (Cantref Meirionnydd)
- Kymwt Eftumaneyr (Cwmwd Ystumanner)
- Kymwt Talybont (Cwmwd Tal-y-bont)
- "Cantref Eryri"
- Kymwt Cyueilawc (Cwmwd Cyfeiliog)
- Kymwt Madeu (Cwmwd Mawddwy)
- Kymwt Uch Meloch (Cwmwd Uwch Meloch, sef rhan o Gwmwd Is Tryweryn yng Nghantref Penllyn)
- Kymwt Is Meloch (Cwmwd Is Meloch, sef rhan o Gwmwd Is Tryweryn yng Nghantref Penllyn)
- Kymwt Llan Gonwy (Cwmwd Llangonwy)(Cwmwd Nant Conwy)
- Kymwt Dinmael (Cwmwd Dinmael)
- Kymwt Glyndyurdwy (Cwmwd Glyndyfrdwy)
- Cantrefoed Powys Madawc (Cantrefi Powys Fadog)
- Kymwt Iaal (Cwmwd Iâl)
- Kymwt Ystrat Alun (Cwmwd Ystrad Alun)
- Kymwt Yr Hop (Cwmwd yr Hob)
- Kymwt Berford (Cwmwd Berffordd)(?)
- Kymwt Wnknan (?)
- Kymwt Trefwenn (Cwmwd Y Dref Wen)
- Kymwt Croesosswallt (Cwmwd Croesoswallt)
- Kymwt y Creudyn (Cwmwd y Creuddyn : Creuddyn (Rhos)?)
- Kymwt Nant Odyn (Cwmwd Nant Odyn)
- Kymwt Keuenbleid (Cwmwd Cefnblaidd)
- Kymwt Uch Raeadyr (Cwmwd Uwch Rhaeadr)
- Cantrefoed Powys Gwennwynwyn (Cantrefi Powys Wenwynwyn)
- Kymwt Is Raeadyr (Cwmwd Is Rhaeadr)
- Kymwt Deu Dyfwr (Cwmwd Deuddwr)
- Kymwt Llannerchwdwl (Cwmwd Llannerch Hudol)
- Kymwt Ystrat Marchell (Cwmwd Ystrad Marchell)
- Kymwt Mecheyn (Cwmwd Mechain)
- Kymwt Caer Einon (Cwmwd Caereinion)
- Kymwt Uch Affes (?)
- Kymwt Is Affes (?)
- Kymwt Uch Coet (Cwmwd Uwch Coed)
- Kymwt Is Coet (Cwmwd Is Coed)
- Cantrefoed Maelenyd (Cantrefi Maelienydd : Cantref Maelienydd)
- Kymwt Ceri (Cwmwd Ceri)
- Kymwt Gwerthrynnyon (Cwmwd Gwerthrynion)
- Kymwt Swyd Uudugre (Swydd Buddugre : Cwmwd Buddugre)
- Kymwt Swyd Yethon (Swydd Ieithon : Cwmwd Dinieithon)
- Kymwt Llwythyfnwc (Cwmwd Llwythyfnwg)
- Cantref Buellt
- Kymwt Penn Buellt (Cwmwd Pen Buellt)
- Kymwt Swydman (Cwmwd Swyddman : Cwmwd Dinan)
- Kymwt Treflys (Cwmwd Treflys)
- Kymwt Is Iruon (Cwmwd Is Irfon)
- Cantref Eluael (Cantref Elfael)
- Kymwt Uch Mynyd (Cwmwd Uwch Mynydd)
- Kymwt Is Mynyd (Cwmwd Is Mynyd)
Brecheinawc (Brycheiniog)
[golygu | golygu cod]- Cantref Selyf
- Cantref Tewdos
- Kymwt Dyffryn Hodni (Cwmwd Dyffryn Hoddni)
- Kymwt Llywel (Cwmwd Llys Hywel)
- Kymwt Tir Rawlf (Cwmwd Tir Rawlff)
- Cantref Ida (?Pencelli)
- Kymwt Ystrat Yw (Cwmwd Ystrad Yw)
- Kymwt Cruc Howel (Cwmwd Crughywel)
- Kymwt Evyas (Cwmwd Ewias : Ewias Lacy)
- Cantref Bychan
- Kymwt Hirvryn (Cwmwd Hirfryn)
- Kymwt Perued (Cwmwd Perfedd)
- Kymwt Iskennen (Cwmwd Is Cennen)
- Cantref Eginawc (Cantref Eginog)
- Kymwt Kedweli (Cwmwd Cydweli)
- Kymwt Carnywyllawn (Cwmwd Carnwyllion)
- Kymwt Gwhyr (Cwmwd Gŵyr)
- Cantref Mawr
- Kymwt Mallaen (Cwmwd Mallaen)
- Kymwt Caeaw (Cwmwd Caeo)
- Kymwt Maenawr Deilaw (Cwmwd Maenor Deilo)
- Kymwt Cetheinawc (Cwmwd Catheiniog)
- Kymwt Mab Eluyw (Cwmwd Mabelfyw)
- Kymwt Mab Utryt (Cwmwd Mabudryd)
- Kymwt Widigada (Cwmwd Gwidigada)
Ceredigyawn (Ceredigion)
[golygu | golygu cod]- Cantref Gwarthaf : Cantref Penweddig)
- Kymwt Geneurglyn (Cwmwd Genau'r Glyn)
- Kymwt perued (Cwmwd Perfedd)
- Kymwt Creudyn (Cwmwd Creuddyn)
- Cantref Mabwynyon (Cantref Mebwynion)
- Kymwt Meuenyd (Cwmwd Mefenydd)
- Kymwt Anhunyawc (Cwmwd Anhuniog)
- Kymwt Pennard (Cwmwd Pennardd)
- Cantref Caer Wedros (Cantref Caerwedros)
- Kymwt Wenyionid (Cwmwd Gwynionydd)
- Kymwt Is Coed (Cwmwd Is Coed)
- Cantref Emlyn (Cantref Emlyn)
- Kymwt Uch Cuch (Cwmwd Uwch Cuch)
- Kymwt Is Cuch (Cwmwd Is Cuch)
- Cantref Cemeis (Cantref Cemais)
- Kymwt Uch Neuer (Cwmwd Uwch Nyfer)
- Kymwt Is Neuer (Cwmwd Is Nyfer)
Wartha (Gwarthaf)
[golygu | golygu cod]- Cantref Wartha (Cantref Gwarthaf)
- Kymwt Eluyd (Cwmwd Elfed)
- Kymwt Derllys (Cwmwd Derllys)
- Kymwt Pennryn (Cwmwd Penrhyn)
- Kymwt Estyrlwyf (Cwmwd Ystlwyf)
- Kymwt Talacharn (Cwmwd Talacharn)
- Kymwt Amgoet (Cwmwd Amgoed) (neu Henllan Amgoed)
- Kymwt Peluneawc (Cwmwd Peuliniog)
- Kymwt y Uelfre (Cwmwd Efelffre)
Deugledyf (Deugleddyf)
[golygu | golygu cod]- Cantref Deugledyf (Cantref Deugleddyf : Cantref Daugleddau)
- Kymwt Llan y Hadein (Cwmwd Llan yr Hadain : Cwmwd Llanhuadain)
- Kymwt Castell Hu (Cwmwd Castell Hu)
Pennbrwc (Pembrwc)
[golygu | golygu cod]- Cantref Pennbrwc (Cantref Penfro)
- Kymwt Coet Raff (Cwmwd Coed Raff)
- Kymwt Maenawrbir (Cwmwd Maenorbŷr)
- Kymwt Pennbrwc (Cwmwd Penfro)
Pebideawc (Pebidiog)
[golygu | golygu cod]- Cantref Pebideawc (Cantref Pebidiog)
- Kymwt Pennkaer (Cwmwd Pen Caer)
- Kymwt Menew (Cwmwd Mynyw)
Ros (Rhos)
[golygu | golygu cod]- Cantref Ros (Cantref Rhos)
- Kymwt Hawlfford (Cwmwd Hwlffordd)
- Kymwt Kastell Gwalchmei (Cwmwd Castell Gwalchmai)
Morgannwc (Morgannwg)
[golygu | golygu cod]- Cantref Gorvynyd (Cantref Gorfynydd)
- Kymwt Rwng Neth a Thawy (Rhwng Nedd a Thawe)
- Kymwt Tir yr Hwndryt (Cwmwd Tir yr Hwndrwd)
- Kymwt Rwng Neth ac Avyn (Cwmwd Rhwng Nedd ac Afan)
- Kymwt Tir yr Iarll (Cwmwd Tir Iarll)
- Kymwt y Coety (Cwmwd y Coety)
- Kymwt Maenawr Glynn Ogwr (Cwmwd Maenor Glyn Ogwr)
- Cantref Penn Ychen (Cantref Penychen)
- Kymwt Meisgyn (Cwmwd Meisgyn)
- Kymwt Glyn Rodne (Cwmwd Glyn ?Rhodni?)
- Kymwt Maenawr Tal y Vann (Cwmwd Maenor Tal y Fan)
- Kymwt Maenawr Ruthyn (Cwmwd Maenor Rhuthun)
- Cantref Breinyawl (Y Cantref Breiniol : Cantref Senghennydd)
- Kymwt Is Caech (Cwmwd Is Caech)
- Kymwt Uch Caech (Cwmwd Uwch Caech)
- Kymwt Kibwr (Cwmwd Cibwr)
- Cantref Gwynllwc (Cantref Gwynllŵg)
- Kymwt yr Heid (Cwmwd yr Haidd)
- Kymwt Ydref Berued (Cwmwd y Dref Berfedd)
- Kymwt Edelygyon (Cwmwd ?Edelygion?)
- Kymwt Eithyaf (Cwmwd ?Eithaf?)
- Kymwt y Mynyd (Cwmwd y Mynydd)
- Cantref Gwent
- Kymwt Is Coed (Cwmwd Is Coed)
- Kymwt Llemynyd (Cwmwd ?Llemynydd?)
- Kymwt Tref y Gruc (Cwmwd Tref y Grug)
- Kymwt Uch Coed (Cwmwd Uwch Coed)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ J. Gwenogvryn Evans (ed.), The Text of The Bruts from the Red book of Hergest (Oxford, 1890), pp. 407-412
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
- Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units (Caerdydd, 1969)