Ynysfor Maleia
Map o'r byd yn dangos Ynysfor Maleia (gwyrdd). | |
Math | ynysfor, grŵp, rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Maleisia, Indonesia, Singapôr, Brwnei, Dwyrain Timor, Papua Gini Newydd, y Philipinau |
Arwynebedd | 2,000,000 km² |
Gerllaw | Cefnfor India, Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 2.080582°S 126.546887°E |
Grŵp o ynysoedd trofannol yn Ne Ddwyrain Asia ac ynysfor mwyaf y byd yw Ynysfor Maleia a leolir ar hyd ororau Cefnfor India â'r Cefnfor Tawel, rhwng gorynys Indo-Tsieina ac Awstralia. Mae'n cynnwys y 17,000 o ynysoedd yn Indonesia a'r 7,000 o ynysoedd yn y Philipinau, yn ogystal ag ynysoedd a rhannau o ynysoedd sydd yn eiddo i Frwnei, Dwyrain Timor, Maleisia, Papwa Gini Newydd, a Singapôr. Adwaenir yr ynysfor gan sawl term arall, gan gynnwys yr enw Indoneseg Nusantara a'r hen enw Ewropeaidd India'r Dwyrain.
Estynnir am ryw 6,000 km ar hyd y cyhydedd, gydag hyd o 3,500 km o'r gogledd i'r de ar ei fwyaf.[1] Mae'r amryw ynysoedd yn amgylchynu moroedd Sulu, Celebes, Manda, Molucca, Jawa, Flores, a Savu. Gwahanir yr ynysoedd oddi ar dir mawr Asia i'r gogledd-orllewin gan Gulfor Malacca a Môr De Tsieina, oddi ar ynys Taiwan i'r gogledd gan Sianel Bashi, ac oddi ar Awstralia i'r de gan Gulfor Torres.
Yn nhermau strwythur y Ddaear, rhennir Ynysfor Maleia yn dair rhan: Ysgafell Sunda, sydd yn rhan o ysgafell gyfandirol Indo-Tsieina ac yn cynnwys Sumatra, Jawa, a Borneo; Ysgafell Sahul, sydd yn cysylltu cyfandir Awstralia â Gini Newydd; a'r ardal rhyngddynt, sydd yn cynnwys nifer o ynysoedd llai o faint. Fel arfer, cynhwysir Gini Newydd—a rheolir gan Indonesia yn y gorllewin a Phapwa Gini Newydd yn y dwyrain—yn rhan o'r ynysfor, er nad yw'n rhan o'r un plât tectonig â'r holl ynysoedd eraill; ni fyth cynhwysir Ynysoedd Andaman a Nicobar i'r gorllewin, nac Ynysfor Bismarck i'r dwyrain, na Thaiwan i'r gogledd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Malay Archipelago. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2022.