Treamlod
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 382, 392 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,557.37 ha |
Cyfesurynnau | 51.8948°N 4.9064°W |
Cod SYG | W04000408 |
Cod OS | SN0025 |
Cod post | SA62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Treamlod[1] (Saesneg: Ambleston). Saif yng nghanolbarth y sir, 11 milltir i'r gogledd o dref Hwlffordd ac i'r dwyrain o'r briffordd A40. Credir fod yr enw yn deillio o dir oedd yn eiddo i ryw "Amelot", enw Hen Ffrangeg. Ail-adeiladwyd Eglwys y Santes Fair yn 1906, ond mae'r tŵr o'r 12g.
Heblaw Treamlod ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys penrefi Wstog a Wallis. Mae Capel Wstog yn nodedig am mai yma, yn 1755, y cynhaliwyd gwasanaeth cymun am y tro cyntaf yn un o gapeli'r Wesleaid yng Nghymru. Y ffin ogleddol yw hen drac sy'n arwain tua Tyddewi; arferai fod yn ffin ogleddol cantref Daugleddau, a dywed George Owen yn 1602 mai yma yr oedd ffin ieithyddol Sir Benfro. Dywed ef fod Treamlod yn ddwyieithog.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 367.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston