The Legend of Zelda
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Cyfres o gemau antur yw The Legend of Zelda sydd wedi cael ei datblygu a'i chyhoeddi gan cwmni gemau Japaniaidd, Nintendo, yn bennaf Shigeru Miyamoto.
Maent yn canolbwyntio ar antur a datrys posau (puzzles), a hyd yn oed weithiau yn cynnwys elfennau o gemau RPG (chwarae-rol). Mae'r gyfres "Legend of Zelda" wedi bod yn mynd ers dros 30 mlynedd ac yn aml yn cael ei gysidro fel un o’r cyfresi gemau cyfrifiadur gorau erioed.
Mae'r chwaraewr yn chwarae rhan bachgen ifanc o'r enw Link, a rhan fwyaf o'r amser ei dasg yw achub y dywysoges "Zelda" a'r Deyrnas "Hyrule" oddi ar "Ganon" sef "tyrant" sydd eisiau cymryd drosodd y Deyrnas iddo fo ei hun. Mae gan y 3 person yma darn o’r "Triforce", sef crair (relic) sydd wedi cael ei wneud allan o'r 3 darn yma pan maent efo'i gilydd ac yn rhoi pŵer anferthol i bwy bynnag sydd efo'r "Triforce" cyfan, ond os mae Link yn atal Ganon o wneud hyn, mae'n cadw trefn ar y deyrnas.
Ddaeth y gem The Legend of Zelda cyntaf allan yn y flwyddyn 1986 ac ers hynny mae y cyfres o gemau yma wedi tyfu i gynnwys 19 o gemau "Legend of Zelda" ac wedi profi i fod yn lwyddiannus iawn ers hynny. Mae pob consol gem mae Nintendo wedi gwneud hefo o leiaf un gem Legend of Zelda.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Nintendo - Official Site - Video Game Consoles, Games". www.nintendo.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-10-16.