Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

William Robert Grove

Oddi ar Wicipedia
William Robert Grove
Ganwyd11 Gorffennaf 1811 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw1 Awst 1896 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcemegydd, barnwr, dyfeisiwr, ffisegydd, cyfreithiwr, ffotograffydd, naturiaethydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PlantFlorence Crauford Grove, Coleridge Grove Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Bakerian Lecture, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dyfeisydd a ffisegydd o Gymru oedd William Robert Grove (11 Gorffennaf 18111 Awst 1896). Yn enedigol o Abertawe, ef oedd dyfeisiwr y gell danwydd a gwnaeth lawer o waith ar gadwraeth egni. Roedd hefyd yn gyfreithiwr ac yn farnwr Uchel Lys.

Astudiodd y clasuron yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen 1829–32, cyn iddo ddod yn gyfreithiwr. Fe'i galwyd i'r bar yn Lincoln's Inn, Llundain, yn 1835. Yn y flwyddyn honno daeth yn aelod o Sefydliad Brenhinol (Royal Institution) yn Llundain, sefydliad ar gyfer addysg wyddonol ac ymchwil, a hefyd daeth yn aelod sefydlu'r Swansea Philosophical and Literary Society (Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe).

Ym 1839 dyfeisiodd ffurf newydd o gell drydan, y Gell Grove, a ddefnyddiodd electrodau sinc a phlatinwm a oedd yn agored i ddau asid ac a wahanwyd gan lestr ceramig hydraidd.

Cell Grove

Ym 1840 dyfeisiodd un o'r lampiau trydan cyntaf a ddefnyddiodd fỳlb gwynias.

Yn 1842 lluniodd berthynas rhwng egni mecanyddol, gwres, golau, trydan a magneteg trwy eu trin fel amlygiadau o un "grym" (egni yn nhermau modern). Yn 1846 cyhoeddodd ei ddamcaniaethau yn ei lyfr On the Correlation of Physical Forces. Mae'r cysyniad hwn yn sail i egwyddor cadwraeth egni.

Yn 1842 creodd y gell danwydd gyntaf, sef batri a gynhyrchodd drydan trwy gyfuno hydrogen ac ocsigen.

Yn y 1840au chwaraeodd ran bwysig wrth foderneiddio a diwygio'r Gymdeithas Frenhinol.

Yn ddiweddarach yn y 1840au gwnaeth lai o ymchwil wyddonol a chanolbwyntiodd ar ei yrfa fel bargyfreithiwr. Fe'i penodwyd yn farnwr ym 1871.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • William Robert Grove, On the Correlation of Physical Forces (Llundain, 1846)
  • Iwan Rhys Morus, William Robert Grove: Victorian Gentleman of Science (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2017)
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.