West Side Story
West Side Story | |
Recordiad gwreiddiol y cast | |
---|---|
Cerddoriaeth | Leonard Bernstein |
Geiriau | Stephen Sondheim |
Llyfr | Arthur Laurents |
Seiliedig ar | Yn seiliedig ar ddrama William Shakepeare |
Cynhyrchiad | 1957 Broadway 1958 Adfywiad Broadway 1958 West End 1960 Adfywiad Broadway 1961 Film 1980 Adfywiad Broadway 1997 Taith y DU & Adfywiad West End Llundain 2008 Adfywiad West End Llundain & thaith y DU 2009 Adfywiad Broadway |
Sioe gerdd ydy West Side Story. Ysgrifennwyd y llyfr gan Arthur Laurents a'r gerddoriaeth gan Leonard Bernstein gyda geiriau gan Stephen Sondheim. Mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar ddrama William Shakespeare, Romeo and Juliet. Lleolir y sioe gerdd ar Ochr Orllewinol Dinas Efrog Newydd yng nghanol y 1950au ac mae'n ymdrin â'r gwrthdaro rhwng dau griw o arddegwyr o gefndiroedd ethnig a diwylliannol gwahanol. Mae'r prif gymeriad, Tony sy'n aelod o'r giang Americanaidd, yn cwympo mewn cariad gyda Maria, sy'n chwaer i arweinydd y giang o Puerto Rico. Ystyrir y sioe yn drobwynt yn hanes theatr cerddorol Americanaidd yn sgîl eu themâu tywyll, cerddoriaeth soffistigedig, golygfeydd dawns ymestynnol a'r ffocws ar broblemau cymdeithasol. Daeth sgôr Bernstein ar gyfer y sioe gerdd yn boblogaidd iawn; mae'n cynnwys y caneuon "Something's Coming," "Maria," "América," "Somewhere," "Tonight," "Jet Song," "I Feel Pretty," "One Hand, One Heart," a "Cool." Dynododd y cynhyrchiad gwreiddiol ar Broadway ym 1957, a gafodd ei gyfarwyddo a'i goreograffio gan Jerome Robbins a'i gynhyrchu gan Robert E. Griffith a Harold Prince, gynhyrchiad cyntaf Sondheim ar Broadway. Rhedodd y sioe am 732 o berfformiadau, cyn mynd ar daith. Cafodd ei enwebu am Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau yn 1957, ond aeth y wobr i The Music Man gan Meredith Willson. Enillodd Wobr Tony yn 1957 am goreograffeg Robbins. Cafodd y sioe rediad hirach byth yn Llundain, a gwelwyd llwyddiant rhyngwladol, gan arwain at ffilm o'r sioe gerddorol ym 1961. yn aml, perfformir West Side Story gan ysgolion, theatrau lleol ac yn achlysurol, gan gwmnïau opera.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]
Y Jets
|
Eu Merched
|
Y Sharks
|
Eu Merched
|
Yr Oedolion
|