Rheilffordd Dyffryn Teifi
Teifi Valley Railway Rheilffordd Dyffryn Teifi | |
---|---|
Locomotif diesel yng ngorsaf wreiddiol Henllan | |
Ardal leol | Cymru |
Terminws | Henllan |
Gweithgaredd masnachol | |
Enw | Rheilfordd Caerfyrddin ac Aberteifi |
Adeiladwyd gan | Rheilffordd De Cymru |
Maint gwreiddiol | 7 tr 0 1⁄4 modf (2,140 mm) ac erbyn 1872 4 tr 8 1⁄2 modf (1,435 mm) |
Yr hyn a gadwyd | |
Gweithredir gan | Cymdeithas y Rheilffordd Dyffryn Teifi |
Gorsafoedd | 3 |
Hyd | 2 milltir (3.2 km) |
Maint 'gauge' | 2 tr (610 mm) |
Hanes (diwydiannol) | |
Agorwyd | 1860 |
Caewyd | 1973 |
Hanes (Cadwraeth) | |
1981 | Prynwyd tir yr hen reilffordd. |
1983 | Ailagorwyd at Bontprenshitw. |
1987 | Ailagorwyd at Llandyfriog |
2006 | Ailagorwyd at Llandyfriog (Glan yr Afon) |
2009 | Adeiladwyd platfform newydd yn Henllan ar safle'r hen blatfform. |
Rheilffordd Dyffryn Teifi | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Leolir y rheilffordd yn Henllan, pedair milltir i'r dwyrain o Gastell Newydd Emlyn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y Rheilffordd Dyffryn Teifi wreiddiol fel Rheilffordd cledrau eang rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi, ac agorwyd ym 1860 gan y Rheilffordd De Cymru. Gweithredwyd y rheilffordd rhwng Caerfyrddin a Chynwyl Elfed gan y Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi. Estynnir y lein i Bencader a Llandysul ym 1864, ac erbyn 1872, newidiasid i led safonol.
Prynwyd y rheilffordd gan y Rheilffordd y Great Western, ac estynnwyd i Gastell Newydd Emlyn.
Heddiw
[golygu | golygu cod]Mae'r rheilffordd ar agor rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Medi, ac hefyd dros Calan Gaeaf ac y Nadolig. Mae llwybrau, safleodd ar gyfer picnic, barbiciw neu wersylla, meysydd chwarae ar gyfer plant, theatr, llyfrgell ac amgueddfa am y Rheilffordd y Great Western.
Locomotifau
[golygu | golygu cod]Stêm
[golygu | golygu cod]Hunslet 0-4-0ST 606 Alan George, adeiladwyd 1894
Kerr Stuart Haig 0-6-2T 3117 Sgt Murphy, adeiladwyd 1918
Diesel
[golygu | golygu cod]Motor Rail 4WDM 60S 11111 Sammy, adeiladwyd 1959
Hudson Hunslet 4WDM Sholto
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan y rheilffordd Archifwyd 2019-02-19 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Walesrails Archifwyd 2012-11-01 yn y Peiriant Wayback