Planhigyn llysieuaidd
Gwedd
Delwedd:Steppe flora, Grassland, Rostov-on-Don, Russia.jpg, Shatili, Flora, Grass meadows, Georgia.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | math o blanhigyn |
---|---|
Math | Embryophyta |
Y gwrthwyneb | woody plant |
Rhan o | botaneg |
Yn cynnwys | Hemicryptophyte, cryptophyte, Therophyte |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Planhigyn fasgwlaidd nad oes ganddo goesyn prennaidd yw planhigyn llysieuol. Mae'r categori hwn o blanhigion yn fawr iawn, ac mae'n cynnwys llawer o blanhigion lluosflwydd, a bron pob planhigyn unflwydd a phlanhigion eilflwydd.
Mae'r rhan fwyaf o blanhigion llysieuol yn blanhigion sy'n tyfu'n isel, yn wahanol i blanhigion prennaidd fel coed a llwyni. Fel arfer mae ganddyn nhw goesynnau gwyrdd meddal sy'n brin o lignin ac mae eu twf uwchben y ddaear yn fyrhoedlog. Mewn cyferbyniad, mae gan planhigion prennaidd goesynnau uwchben y ddaear sy'n aros yn fyw, hyd yn oed yn ystod y gaeaf, ac yn tyfu egin y flwyddyn nesaf o'r rhannau sy'n aros uwchben y ddaear.