Pig yr Aran
Pig yr Aran | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Geraniales |
Teulu: | Geraniaceae |
Genws: | Geranium |
Rhywogaeth: | G. molle |
Enw deuenwol | |
Geranium molle L. |
Blodyn cyffredin sy'n tyfu mewn tir diffaith, cloddiau a thir wedi ei drin ydyw Pig yr Aran, Troed y Golomen neu Garanbig Maswaidd; (Lladin: Geranium molle; Saesneg: Dovesfoot neu Crane's-bill). Un bychan ydyw rhwng 10 a 15 cm ac mae'n blodeuo rhwng Ebrill a Medi.
Mae'n wreiddiol o ganol a gorllewin Ewrop ond bellach fe'i gwelir yn tyfu yng ngogledd America. Caiff ei ystyried fel chwynyn gan y rhan fwyaf o bobl a defnyddir "Glyphosate" i'w reoli.
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Caiff ei ystyried yn dda ar gyfer gwynt yn y bol ac i hel cerrig allan o'r arennau. O wasgu'r planhigyn yn y dwylo a'i roi ar y croen gellir trin gowt a chymalau poenus.[1] Ceir tystiolaeth hefyd y gall wella: clwy'r marchogion, craciau ar y croen, cylchrediad y gwaed, gwynegon y cluniau, dolur gwddw, problemau mislif, llau pen a llid y bledren.[2]
Mathau
[golygu | golygu cod]- Pig yr Aran Rhuddgoch (Geranium sanguineum)
- Pig yr Aran Llarpiog (Geranium dissectum)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The English physitian: or an astrologo-physical discourse of the vulgar herbs of this nation. London : Peter Cole, 1652
- ↑ Gwefan Saesneg[dolen farw]