Pensaernïaeth Fodern
Mae Pensaernïaeth Fodern yn cyfeirio at ystod o arddulliau o adeiladu sy'n perthyn i'r mudiad aesthetig modern ehangach. Dyfeisiwyd nifer o'r arddulliau yn ystod degawdau cynnar yr 20g, ac fe ddaethant yn gyffredin iawn yn dilyn yr Ail Ryfel Byd yn enwedig yn y Gorllewin. Er bod yr ystod o arddulliau gwahanol sydd wedi'u casglu o dan y faner yn amrywio'n sylweddol, yn gyffredinol maent yn rhannu'r ffaith eu bod yn ymateb yn erbyn arddulliau cynharaf y 19g fel Beaux Arts a neo-glasuriaeth ac yn manteisio ar ddeunyddiau adeiladu newydd y cyfnod, megis dur, concrit a gwydr. O ran poblogrwydd, erbyn diwedd y ganrif disodlwyd yr holl arddulliau modern gan fathau eraill o bensaernïaeth megis Pensaernïaeth Ôl-fodernaidd.
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Moderniaeth
Daw pensaernïaeth fodern yn uniongyrchol o egwyddorion yr aestheteg modern, sef adwaith i rai o fudiadau celfyddyol y bedwaredd ganrif ar bymtheg megis rhamantiaeth. Roedd penseiri modern eisiau archwilio dulliau newydd o adeiladu ac o addurno adeiladau, yn aml gan fenteisio ar ddulliau a deunyddiau newydd a oedd ar gael iddynt yn sgil y chwyldro diwydiannol.
Moderniaeth Cynnar yn Ewrop ac America
[golygu | golygu cod]-
Adeilad Home Insurance yn Chicago gan William Le Baron Jenney (1883)
-
Tŷ Steiner yn Fiena gan Adolf Loos (1910)
-
Adeilad Prudential gan Louis Sullivan yn Buffalo, Efrog Newydd (1896)
-
Adeilad y Flatiron yn Ninas Efrog Newydd (1903)
-
Tŷ Robie gan Frank Lloyd Wright, Chicago (1909)
Roedd yr enghreifftiau modern cynharaf yn dangos cydlyniant clir gyda dulliau adeiladu mwy traddodiadol, ond eu bod yn manteisio ar ddeunyddiau newydd neu ar siapau newydd.
Art Deco ac Art Moderne (1920au-1940au)
[golygu | golygu cod]- Prif: Art Deco
Arddull oedd art deco a oedd i'w weld mewn nifer o gelfyddydau gwahanol. O fewn pensaernïaeth, roedd yr arddull wedi'i nodweddu gan gromlinnau a golwg 'wedi'i lyfnu'.
Yr Arddull Ryngwladol (1930au-1980au)
[golygu | golygu cod]- Prif: Yr Arddull Ryngwladol
Defnyddir y term Yr Arddull Ryngwladol i gyfeirio at ddull o adeiladu a ddaeth yn sgil gwaith penseiri y Bauhaus megis Walter Gropius, yn ogystal â Phenseiri Eropeaidd, yn enwedig Le Corbusier.
Pensaernïaeth Friwtalaidd (1950au-1980au)
[golygu | golygu cod]-
Neuadd Dinas Boston
Arddull bensaernïol sy'n perthyn yn agos i'r arddull ryngwladol yw pensaernïaeth Friwtalaidd (neu weithiau Briwtaliaeth). Yn rhannu'r pwyslais ar siapau syml a fflat gyda'r arddull ryngwladol, mae pensaernïaeth Friwtalaidd yn defnyddio siap a maint adeiladau, yn ogystal â choncrit diaddurnedig, heb ei liwio na'i orchuddio, i greu argraff cadarn, solet, ymosodol hyd yn oed. Roedd yr arddull yn boblogaidd iawn yn y Deyrnas Unedig rhwng y 1950au a'r 1980au, yn enwedig ar gyfer adeiladau cyhoeddus.
Pensaernïaeth Fodern yng Nghymru
[golygu | golygu cod]-
Canolfan Dinesig Casnewydd, 1964 (dyluniwyd 1937)
-
Caffi Morannedd yng Nghriccieth gan Clough Williams-Ellis
-
Y tŵr, Prifysgol Caerdydd
Yng Nghymru, mae mwyafrif yr adeiladau modern mwyaf adnabyddus yn yr arddull Friwtalaidd neu'r arddull ryngwladol, er y ceir rhai enghreifftiau o adeiladau modern mewn arddulliau eraill.