Paolieg
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,857 |
Pennaeth llywodraeth | Philippe Jegou |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 24.57 km² |
Uwch y môr | 68 metr, 0 metr, 82 metr |
Yn ffinio gyda | Felgerieg-al-Lann, Sant-Visant-an-Oud, Sant-Yagu-ar-Bineg, Malañseg, Sant-Gravez, Sant-Varzhin-an-Oud, La Gacilly |
Cyfesurynnau | 47.7133°N 2.2192°W |
Cod post | 56220 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Peillac |
Pennaeth y Llywodraeth | Philippe Jegou |
Mae Paolieg (Ffrangeg: Peillac) yn gymuned yn department Mor-Bihan (Ffrangeg: Morbihan), Llydaw. Mae'n ffinio â Les Fougerêts, Saint-Vincent-sur-Oust, Saint-Jacut-les-Pins, Malansac, Sant-Gravez, Saint-Martin-sur-Oust ac mae ganddi boblogaeth o tua 1,857 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Mae Paolieg wedi'i leoli yn nwyrain y Mor-bihan, tua deg cilomedr i'r gogledd-orllewin o Redon. Mae’n cael ei ffinio'n naturiol i'r gogledd gan yr afon Oud, ac i'r de gan yr afon Arz. Fe'i croesir gan y ffordd fawr o Malastred i Redon. I'r gorllewin, mae'n ffinio â chymuned Sant-Gravez ac i'r Dwyrain gan Sant-Visant-an-Oud. Mae'r pentref yn ganolog ac mae'n gorwedd 11 cilomedr i'r gogledd o Alaer, Gazilieg, Roc'h-an-Argoed a 44 cilomedr i'r dwyrain o Gwened.
Mae ei uchder yn 65 metr uwchlaw’r môr ac mae ei harwyneb yn 2420 hectar, gyda thua thraean yn cael ei amaethu, a'r gweddill o dan ddolydd, pren ac ati. Mae'r tir yn gyffredinol ffrwythlon ac yn cynhyrchu gwenith y bwch, rhyg, gwenith, ceirch a chnau castan[1].
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Hanes
[golygu | golygu cod]Mae presenoldeb cromlechi a meini cerfiedig yn y gymuned yn brawf bod pobl wedi byw yn yr ardal am gyfnod maith. Mae’r cyfeiriadau cynharaf i enw’r plwyf i’w gweld mewn siarteri sy’n dyddio o’r 9g ac yn cael eu cadw yn Gartwlari Redon.
Roedd yr ardal yn cael ei reoli gan Iarll Paolieg o’r 9g ond nid oes cofnod o faint yr iarllaeth nac enwau a dilyniant yr arglwyddi. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd y parth i arglwyddi Rieux, a oedd yn ei gadw hyd at y Chwyldro Ffrengig.
Yn 1791, gwrthododd rheithor Paolieg, Monsieur Vaillant, tyngu’r llw sgismig, a oedd yn troi’r eglwys yn Ffrainc yn gorff sifil heb fod dan awdurdod y Pab. Gorfodwyd i’r rheithor ffoi’n alltud. Lladdwyd ei ficer, Monsieur Le Thiec, gan y Gweriniaethwyr. Cyhuddwyd gŵr o’r enw Monsieur Chedaleux o fradychu’r rheithor a'r ficer i’r awdurdodau ac fe gafodd ef ei lofruddio yn y dref ym mis Ionawr 1794.
Ym 1906 bu anghydfod arall yn y dref parthed y berthynas rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth. O dan ddeddf a basiwyd ym 1905 gwahanwyd yr eglwys a’r wladwriaeth a chrëwyd comisiwn i ymchwilio i gyfoeth yr eglwysi. Roedd y comisiwn i fod i archwilio eglwys Paolieg ar 7 Mawrth 1906. Amgylchwyd yr eglwys gan blwyfolion i geisio rhwystro’r comisiynwyr rhag cael mynediad. Danfonwyd 200 o filwyr a 3 brigâd o’r gendarmerie i geisio gwasgaru’r dorf a chael mynediad i’r eglwys. Wedi cael mynediad i’r eglwys trwy rym gwnaeth y comisiynwyr adolygiad brysiog a thila cyn penderfynu ffoi am eu bywydau.[2]
Pobl o Paolieg
[golygu | golygu cod]- François-Marie Trégaro (1824-1897), esgob Sees (Orne) a chaplan byddin yr India. Ganed yn Paolieg
- Marcel Callo (1921-1945), gweithredydd gyda Jeunesse ouvrière chrétienne (Gweithwyr Ieuenctid Cristnogol) a fu farw mewn gwersyll crynhoi yn ystod yr Ail Ryfel Byd[3]. Ym 1987 cafodd ei gwynfydoli gan y Pab Ioan Pawl II. Roedd ei deulu o Paolieg
- Bu Yann Sohier, athro a gweithredwr dros yr iaith Llydewig, a thad yr hanesydd Mona Ozouf, yn byw yn Paolieg am sawl blwyddyn;
- Sefydlwyd y grŵp cerddoriaeth Llydewig Plantec yn Paolieg.
- Anne-Marie Boudaliez, aelod amlwg o’r Résistance. Ganed yn Paolieg ym 1920
-
François-Marie Trégaro
-
Cofeb Marcel Callo yn Eglwys Saint Aubin, Roazhon
-
Plantec yn canu yn Fest Noz Lango de Morlaix 9 Ebrill 2016.
Cysylltiadau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Paolieg wedi'i gefeillio â[4]
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Hen swyddfa'r Heddlu
-
Y Bont rhwng Felgerieg-al-Lann a Paolieg
-
Yr hen bont rhwng Felgerieg-al-Lann a Paolieg
-
Chapelle de la Congrégation
-
Chapelle Notre-Dame de Liesse
-
Chapelle Saint-Julien
-
Église Saint-Pierre
-
Croes y fynwent
-
Ffynnon Saint-Sabulin
-
Golchdy Mubran
-
Llyfrgell aml gyfrwng
-
Neuadd y dref
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peillac Situation géographique Archifwyd 2017-02-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 hydref 2017
- ↑ "Assaut de l'église - Les inventaires". Gwefan y gymuned. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-15. Cyrchwyd 12 Hydref 2017.
- ↑ Mgr. Charles Molette, En haine de l'Evangile', victimes du décret de persécution nazi du 3 décembre 1943 contre l'apostolat catholique français à l'œuvre parmi les travailleurs requis en Allemagne 1943-1945, éd. Fayard, 1993
- ↑ Le jumelage Archifwyd 2017-02-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 13 Hydref 2017