Portia Doubleday
Portia Doubleday | |
---|---|
Doubleday yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2009 | |
Ganwyd | Portia Ann Doubleday 22 Mehefin 1988 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Tad | Frank Doubleday |
Mae Portia Ann Doubleday (ganed 22 Mehefin 1988) yn actores Americanaidd. Mae'n adnabyddus am chwarae Angela yn y ddrama deledu USA Network Mr. Robot.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Doubleday yn Los Angeles, Califfornia, yn ferch i Christina Hart a Frank Doubleday, sy'n gyn-actorion. Mae ei chwaer, Kaitlin, hefyd yn actores.[1] Mae ei mam erbyn hyn yn gweithio yn y diwydiant adloniant fel ysgrifenwraig a chynhyrchydd dramâu.[2]
Mynychodd Doubleday y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Cyfoethog yn Los Angeles, ysgol fagnet yng ngorllewin y ddinas.[3] Disgrifiodd ei hun fel "tomboy" i'r Los Angeles Times, yn chwarae pêl-droed am ddeuddeg mlynedd.[4] Yn 2010, yr oedd Doubleday yn astudio seicoleg yn y coleg ac yn ystyried gwneud cwrs cyn-feddygaeth.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Mae Doubleday wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys rôl fel Sheeni Saunders yn Youth in Revolt yn 2009.[1] Ymddangosodd yn y ffilm fer 18 yn 2009, am ferch sy'n dygymod gyda diwedd bywyd ei mam,[5] yn ogystal â rôl fel Jasmine Lee yn y ffilm 2011 Big Mommas: Like Father Like Son. Yn fwy diweddar y mae wedi serennu fel Chris Hargensen yn y ffilm 2013 Carrie.
Ar y teledu, ymddangosodd Doubleday yn rheolaidd yn y comedi sefyllfa ABC Mr. Sunshine wrth ochr Matthew Perry ac Allison Janney rhwng 2010–2011.[6][7] Ers mis Mai 2015, mae wedi serennu yn y gyfres deledu USA Network Mr. Robot gyda Rami Malek a Christian Slater. Mae'n chwarae ffrind a chyd-weithiwr i gymeriad Malek.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1998 | Legend of the Mummy | Margaret ifanc | |
2009 | 18 | Becky | Ffilm fer |
2009 | Youth in Revolt | Sheeni Saunders | |
2010 | In Between Days | Lindley | Ffilm fer |
2010 | Almost Kings | Lizzie | |
2011 | Big Mommas: Like Father, Like Son | Jasmine Lee | |
2012 | K-11 | Butterfly | |
2012 | Howard Cantour.com | Dakota | Ffilm fer |
2013 | Carrie | Chris Hargensen | |
2013 | Her | Isabella | |
2015 | After the Ball | Kate / Nate | Prif rôl |
Teledu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2011 | Mr. Sunshine | Heather | 13 o benodau |
2015–presennol | Mr. Robot | Angela Moss | Prif rôl |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Ouzounian, Richard (5 Ionawr 2010). "Portia Doubleday: Michael Cera's transformer". Toronto Star. Toronto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-19. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010.
- ↑ Stein, Ruthe (6 Ionawr 2010). "Youth in Revolt's Portia Doubleday making a name for herself". Houston Chronicle. Houston. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010.
- ↑ Patti, Greco (October 7, 2015). "Sisters Kaitlin and Portia Doubleday on "Empire" and "Mr. Robot," Sibling Rivalry, and High School". Cosmopolitan. Cyrchwyd 19 Chwefror 2016.
- ↑ Ordoña, Michael (7 Ionawr 2010). "Brains and beauty in 'Youth in Revolt'". Los Angeles Times. Los Angeles. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010.
- ↑ Ordoña, Michael (7 Ionawr 2010). "Where you've seen Portia Doubleday". Los Angeles Times. Los Angeles. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010. Italic or bold markup not allowed in:
|newspaper=
(help) - ↑ Andreeva, Nellie (12 Ionawr 2010). "Matthew Perry project a go at ABC". The Hollywood Reporter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-15. Cyrchwyd 25 Ebrill 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Hibberd, James (18 Mai 2010). "ABC's new fall schedule". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 18 Mai 2010.[dolen farw]Nodyn:Cbignore