Porthladd Ros Láir
Gwedd
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Wexford |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Uwch y môr | 20 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 52.2494°N 6.33812°W |
- Gweler hefyd Ros Láir, sy'n gyrchfan lan môr gerllaw.
Porthladd a phentref yn Swydd Wexford (Gaeleg: Contae Loch Garman), Gweriniaeth Iwerddon, yw Porthladd Ros Láir (Gaeleg: Calafort Ros Láir;[1] Saesneg: Rosslare Harbour). Yn ddiweddar, ail-enwyd y porthladd yn Rosslare Europort yn Saesneg. Saif i'r de o gyrchfan lan môr Ros Láir (Saesneg: Rosslare Strand).
Ceir gwasanaethau fferi yn cysylltu'r porthladd ag Wdig (Abergwaun) a Doc Penfro yng Nghymru ac â Cherbourg a Roscoff yn Ffrainc.[2] Mae hefyd gysylltiad cludo nwyddau i Le Havre. Agorwyd yr orsaf rheilffordd ym 1906.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
- ↑ Miles Cowsill (2006). Fishguard-Rosslare: The Official 1906-2006 Anniversary Book (yn Saesneg). Ferry Publications (Wales).
- ↑ "Rosslare Harbour" (PDF). Railscot – Irish Railways (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-09-26. Cyrchwyd 7 Medi 2007.