Swcwbws
Yn chwedloniaeth ganoloesol y Gorllewin, mae swcwbws (o'r Saesneg succubus neu succuba, lluosog succubi; o'r Lladin succuba 'hwren', 'putain', or ferf succubare 'gorwedd o dan') yn diafoles neu ellylles sy'n ymrithio yn ferch ddeniadol i hudo dynion (yn arbennig mynachod) i gael cyfathrach rhywiol yn eu breuddwydion. Mae'r swcwbws yn bwydo ar nerth elfennol y dynion, yn aml hyd nes iddynt lwyr ddiffygu neu hyd at eu marwolaeth. Er bod llawer o'r swcwbi yn greaduriaid dienw, yn ôl traddodiadau Cristnogol canoloesol mae'r dduwies Fesopotamaidd Lilith yn un o'r pennaf ohonynt.
Yn ôl y testun Malleus Maleficarum, neu "Morthwyl yn erbyn y Gwrachod", byddai swcwbi yn casglu semen y dynion roeddent yn cysgu â nhw ac yn ei rhoi i incwbi i'w defnyddio i feichiogi merched. Credid fod y plant a genhedlid felly yn fwy agored i ddylanwad ysbrydion drwg.
Yn ôl un traddodiad, beichiogwyd mam Myrddin gan incwbws a dyna pam roedd yn medru rhagweld y dyfodol. Yn ôl y chwedl a geir yn Historia Brittonum Nennius, mae negesyddion Gwrtheyrn yn holi mam Myrddin Emrys ynglŷn â genedigaeth ei mab. Mae hi'n ateb nad yw'n gwybod sut y cafodd ei beichiogi ac yn tyngu nad yw wedi cysgu â dyn erioed.[1]
Yn ôl rhai traddodiadau byddai'r swcwbws yn trawnsnewid yn incwbws er mwyn beichiogi merch ar ôl cysgu â dyn yn ei freuddwyd.
O'r 16g ymlaen, mewn rhai ardaloedd yn Ewrop, byddai pobl yn cerfio swcwbws tu allan i rai tafarnau i ddangos fod y sefydliad yn cynnwys puteindy y tu mewn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Historia Brittonum pennod 42.