Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Sian Gwenllian

Oddi ar Wicipedia
Siân Gwenllian
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Arfon
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganAlun Ffred Jones
Mwyafrif8,652
Manylion personol
GanwydMehefin 1956
Gwynedd
CenedlCymraes
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Plant4
Alma materPrifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdyddv
GwaithAelod o Senedd Cymru
Gwefanpartyofwalesarfon.org

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru ar ran Plaid Cymru. Cafodd ei hethol gyntaf yn 2016, a chafodd ei hail-ethol yn 2021 gyda chanran uwch o’r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd arall drwy Gymru, gan ddyblu ei mwyafrif gyda 63.3% o’r bleidlais.[1] Ymgyrchodd yn llwyddiannus am ysgol feddygol newydd i ogledd Cymru wedi’i lleoli ym Mangor yn ei hetholaeth.[2]

Magwraeth a gyrfa

[golygu | golygu cod]

Fe’i magwyd ym mhentref y Felinheli lle mae’n dal i fyw a derbyniodd ei haddysg uwchradd ym Mangor. Aeth i’r brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd, a bu’n gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC, HTV, Golwg yn ogystal â chyflwyno a chynhyrchu rhaglenni dogfen ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd (1997-2004.)

Yn 2008 etholwyd Siân yn gynghorydd sir dros ward y Felinheli, gan wasanaethu am 8 mlynedd cyn cael ei hethol i’r Senedd. Bu’n dal y portffolio cyllid (2010-12) cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac yn Aelod Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Hi hefyd oedd Pencampwr Busnesau Bach y sir.

Aelod o Senedd Cymru

[golygu | golygu cod]

Ar hyn o bryd mae’n dal portffolio Tai a Chynllunio Plaid Cymru (2024-) yn dilyn ei rôl fel yr Aelod Arweiniol Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio (2021-2024) rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Bu’n gweithio ar gyfanswm o 46 o feysydd polisi gan sicrhau newidiadau mawr megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ehangu gofal plant am ddim, mesurau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn ogystal â chyfrannu at greu Senedd fwy effeithiol a chynrychioliadol.

Yn ystod pedwerydd a phumed tymor y Senedd, bu’n gyfrifol am sawl portffolio polisi i Blaid Cymru gan gynnwys Addysg, Llywodraeth Leol a Chynllunio, a’r Gymraeg a Diwylliant, a bu’n Gomisiynydd Senedd y Blaid, Trefnydd, Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd yn y Senedd. Hi yw Cyfarwyddwr Polisi Plaid Cymru ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.(2024-)

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae gyrfa wleidyddol Siân yn ymestyn dros sawl degawd. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu'n Ddirprwy Lywydd Urdd y Myfyrwyr. Bu hefyd yn llywodraethwr ar ysgol gynradd ac ysgol uwchradd, yn gadeirydd ar ei chyngor cymuned lleol ac yn wirfoddolwr gyda llawer o fudiadau lleol. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd angerddol dros gydraddoldeb merched a’r Gymraeg ers dros 45 mlynedd.

Mae gan Siân bedwar o blant ac yn 1999, pan oedd eu mab ieuengaf ond yn dair oed, bu farw ei gŵr Dafydd o ganser. Magwyd y pedwar plentyn gan Siân fel rhiant sengl.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gareth (2021-05-11). "Plaid Cymru MS 'overwhelmed' to receive higher vote share than any candidate in Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-28.
  2. "Ysgol feddygol Bangor yn 'gwneud gwahaniaeth yn barod'". BBC Cymru Fyw. 2023-07-04. Cyrchwyd 2024-08-28.
  3. Mosalski, Ruth (2018-05-05). "Widowed mum-of-four's 24-year journey to becoming an AM". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-28.