Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Siwed

Oddi ar Wicipedia
Lampau gwêr mewn amgueddfa

Math o fraster a ddefnyddir wrth goginio yw siwed - fe ddaw yn bennaf o wêr gwartheg, ac, i raddau llai, o wêr defaid. Mae'n wyn, heb arogl penodol iddo. Mae ganddo ymdoddbwynt oeddutu 40-48 °C, gwerth seboneiddio oddeutu 190-200, a gwerth ïodin oddeutu 30-50. Prif gyfansoddion siwed yw glyseridau palmitig, stearig ac olëig. Fe'i geir wrth wresogi braster gyda stêm. Gall siwed gael ei ddefnyddio gyda brasterau eraill, olew pysgod yn bennaf, er mwyn iro lledr. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer gwneud pwdinau, marjarîn a weithiau teisennau.

Yn y gorffennol, defnyddiwyd gwêr yn helaeth ar gyfer gwneud canhwyllau (gydag ansawdd salach na canhwyllau cwyr, ond llawer yn rhatach), ac i lenwi lampau olew. Caiff ei ddefnyddio hefyd ar gyfer trwytho lledr a ffibr ac i iro rhannau symudol peiriannau ac offer. Yn y peiriannau stêm cyntaf defnyddiwyd rhaffau cywarch wedi eu trwytho â gwêr er mwyn cau'r pistonau.