Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Shishapangma

Oddi ar Wicipedia
Shishapangma
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirShigatse Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,027 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.3522°N 85.7797°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd2,897 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddJugal Himal Edit this on Wikidata
Map

Mynydd yn yr Himalaya yn Tibet yw Shishapangma, hefyd Shisha Pangma, Xixabangma neu Gosaithan. Gydag uchder o 8,027 medr, ef yw'r isaf o'r pedwar ar ddeg copa dros 8,000 medr, a'r unig un sydd yn hollol o fewn un wlad; mae pob un arall ar y ffffinîn rhwng dwy wlad. Saif ym mharc cenedlaethol Langtang.

Dringwyd y mynydd gyntaf yn 1964 gan dîm o Weriniaeth Pobl Tsieina dan arweiniad Xǔ Jìng. Ni ddringwyd ef eto hyd 1980, oherwydd gwaharddiad gan yr awdurdodau Tsineaidd oedd mewn grym hyd 1978. Y dull hawddaf i'w ddringo yw ar hyd yr wyneb gogleddol, ac ystyrir ef yn un o'r hawddaf o'r mynyddoedd wyth mil medr i'w ddringo. Mae ei ddringo o'r de-orllewin yn llawer anoddach.

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma