Neil Jenkins
Neil Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 8 Gorffennaf 1971 Rhondda Cynon Taf |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 178 centimetr |
Pwysau | 86 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi Pontypridd, Clwb Rygbi Pontypridd, Rhyfelwyr Celtaidd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed |
Safle | maswr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Neil Roger Jenkins (ganed 8 Gorffennaf 1971) yn gyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru sydd wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall.
Ganed Neil Jenkins yng Ngartholwg, a chwaraeodd rygbi i glybiau Pontypridd a Chaerdydd.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1991 pan oedd yn 19 oed. Gallai chwarae fel maswr, canolwr neu gefnwr. Aeth ymlaen i ennill 87 o gapiau dros Gymru a sgorio 1049 o bwyntiau, oedd yn record y byd am bwyntiau rhyngwladol nes i Jonny Wilkinson o Loegr ei thorri yn 2008. Aeth heibio'r record flaenorol o 911 a ddelid gan Michael Lynagh o Awstralia yn ystod Cwpan y Byd yn 1999 a chyrhaeddodd y nôd o fil o bwyntiau yn erbyn Lloegr yn 2001.
Roedd Jenkins yn giciwr heb ei ail; yn y tymor 2003–4, llwyddodd i sgorio gyda phob un o 44 cic yn olynol i'r Rhyfelwyr Celtaidd, hynny hefyd yn record y byd ar hyn o bryd (2005).
Aeth ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn 1997 a chwaraeodd fel cefnwr ymhob un o'r tair gêm brawf. Enillodd y Llewod y gyfres o ddwy gêm i un, a chicio Jenkins fu'n gyfrifol am hynny i rannau helaeth. Aeth ar daith eto gyda'r Llewod i Seland Newydd yn 2001, ond oherwydd anafiadau ni chafod daith mor llwyddiannus y tro yma.
Ni chafodd le yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol. Yn Hydref 2005 penodwyd ef a Robin McBryde yn hyfforddwyr sgiliau i helpu chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol yn y bedair academi ranbarthol.