Mary Poppins Returns
Mae Mary Poppins Returns yn ffilm Americanaidd cerddorol 2018, a gyfarwyddwyd gan Rob Marshall, gyda sgript gan David Magee a stori gan Magee, Marshall a John DeLuca. Cafodd ei seilio ar gyfres lyfrau o'r un enw gan P. L. Travers a mae'n ddilyniant i'r ffilm Mary Poppins o 1964. Mae'r ffilm yn cynnwys Emily Blunt, Lin-Manuel Miranda, Ben Whishaw, Emily Mortimer, Julie Walters, Dick Van Dyke, Angela Lansbury, Colin Firth a Meryl Streep.[1]
Cyhoeddodd Walt Disney Pictures ei fod am greu'r ffilm ym Medi 2015; comisiynwyd Marshall ar ddiwedd y mis hwnnw a phenodwyd Blunt a Miranda yn Chwefror 2016. Yn Stiwdios Shepperton, Surrey y ffilmiwyd y gwaith ac fe'i lansiwyd yn Theatr Dolby yn Los Angeles ar 29 Tachwedd 2018. Roedd cyfnod o 54 mlynedd rhwng y ddau lansiad - y gwreiddiol a'r dilyniant - sef y cyfnod hiraf yn hanes ffilmio.[2][3]
Actorion
[golygu | golygu cod]- Emily Blunt fel Mary Poppins.
- Lin-Manuel Miranda fel Jack
- Ben Whishaw fel George Banks
- Emily Mortimer fel Jane Banks
- Pixie Davies fel Annabel Banks
- Nathanael Saleh fel John Banks
- Joel Dawson fel Georgie Banks
- Julie Walters fel Ellen
- Dick Van Dyke fel Mr. Dawes Jr
- Angela Lansbury fel The Balloon Lady
- Colin Firth fel William "Weatherall" Wilkins
- Meryl Streep fel Topsy
- David Warner fel Admiral Boom[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mary Poppins Returns – Press Kit" (PDF). wdsmediafile.com. Walt Disney Studios. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-04-04. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2018.
- ↑ D'Alessandro, Anthony (10 Gorffennaf 2018). "'Indiana Jones 5' Shifts To 2021, 'Mary Poppins Returns' Moves Up A Week & More Disney Release-Date Moves". Deadline. Cyrchwyd 2018-11-25.
- ↑ "Why Julie Andrews won't be starring in Mary Poppins movie". Birmingham Mail. 4 Mawrth 2018.
- ↑ "David Warner". TVGuide.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2022.