Maelfa
Math | canolfan siopa |
---|---|
Yn cynnwys | siop adrannol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Datblygiad nodweddiadol ym maes siopa, hamddena a byw yw maelfa (shopping mall). Gall maelfa gynnwys: siopau cadwyn ac adwerthu mawr, siopau manwerthu arbenigol, cyfanwerthu neu dros dro, cadwyni manwerthu, sinemâu, bwytai, banciau a gwasanaethau eraill i person fel trin gwallt, campfeydd a mwy. Nodwedd sy'n uno pob maelfa (o'u cymharu â chanolfan siopa) yw fod popeth o dan do. Gellir defnyddio'r gair "maelfa" Gymraeg i gyfeirio at 'shopping mall' neu 'mall' i ddisgrifio'r canolfan siopa dan do yn America ac Asia, tra, yn Saesneg Prydain arddelir 'shopping precincts' neu 'shopping centre'. Byddai 'canolfan siopa' yn gallu bod yn amwys gan gyfeirio at stryd fawr, neu ganolfan awyr agored. Gyda maelfa bydd popeth o dan do, ac yn aml defnyddir lifft neu esgynnydd i esgyn i ail, trydydd neu hyd yn oed, bedwaredd llawr.
Geirdarddiad Cymraeg
[golygu | golygu cod]Bathwyd y gair 'maelfa' gan y geiriadurwr a'r hynafieithydd, William Owen Pughe gan gyfuno'r geiriau mael (elw, mantais) + fa (lle) i olygu "Siop, marchnad, marchnadle, basâr, adeiladau busnes". Sillefir y gair, yn ôl orgraff unigryw Pughe, fel 'maelva'. Cofnodir y gair yn ei 'A Welsh and English Dictionary' o 1803.[1] Daw'r gair 'mael' ei hun o'r Saesneg 'vail' (a ddaw maes o lawr o'r Ffrangeg a'r Lladin).[2] Bellach estynir yr enw i olygu yr hyn a elwir yn 'Shopping Mall' yn y Saesneg.
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Mae sawl nodwedd i'r Maelfa. Byddant fel rheol yn cael eu trin a'u rheoli fel un uned fusnes fawr (yn wahanol i'r masnachu ar stryd fawr draddodiadol). Bydd yr adeilad, fel rheol, yn eiddo i gwmni eiddo tiriog ('real estate') a all ei roi i gwmni gweithredu arall. Gyda'r cwmni hwn, mae'r gwahanol gwmnïau masnachol, heblaw am yr un arferol o rent, yn llofnodi contract ar gyfer defnyddio'r ardaloedd a ddefnyddir, ardaloedd cyffredin a gwasanaethau strwythur y ganolfan. Mae'r contract fel arfer yn cynnwys gofynion eraill, megis agweddau ar ddelwedd gyffredin, dyddiau/amseroedd agor, ac ati. Yn amlwg, mae costau cynnal a chadw a chostau strwythurol eraill yn perthyn i'r cwmni sy'n berchen ar a/neu'n rheoli.
Mae'r canolfannau hyn yn canoli nifer fawr o weithgareddau masnachol ac adloniannol, er mwyn cynnig amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau defnyddwyr i gael mynediad sy'n heb fynd ar deithiau hir.
Her
[golygu | golygu cod]Ceir sawl her i'r maelfa gyfoes, ac, efallai'r un fwyaf yw datblygiad siopa arlein [3] yn ogystal â'r apêl at brofiad siopa mwy lleol a phersonol ei naws.
Hanes a Datblygiad
[golygu | golygu cod]Gelwyd siopau o dan do yn Bazaar Fawr Istanbul yn 16 neu Bazaar Fawr Isfahan, 17g yn rhoi lloches rhag tywydd poeth. Gyda tŵf dinasoedd yn 18g a 19g ymddangos yr arcêd siopa a gwelwyd rhain ym Mharis, le passage du Caire yn 1798. O ganlyniad, dechreuodd dinasoedd mawrion eraill Ewrop greu canolfannau tebyg: y Burlington Arcade yn Llundain yn 1819; y Galerie Vivienne, Paris 182; passage Lemonnier Liege, Gwlad Belg, yn 1838. Ymysg yr enwocaf ac un sydd dal mewn defnydd yw'r oriel Vittorio Emmanuelle II ym Milan a adeiladwyd rhwng 1867 a 1878 yn nodi uchafbwynt y cysyniad hwn. Roedd y Cleveland Arcade yn yr Unol Daleithiau agorwyd ym 1890, yn cynnig dros 300 metr o hyd ac yn bum lefel, mae pensaernïaeth o wydr a bwrw nodweddiadol o'r 19g. Y Gum ym Moscow, ar yr adeg y'i cwblhawyd, yn 1893, oedd y mwyaf o'i fath.
Arcêds Caerdydd
[golygu | golygu cod]Mae Arcêds Caerdydd yn nodweddiadol o'r don gynnar yma o maelfâu, ac yn dal i fodoli a denu miloedd o ymwelwyr.[4] Maent yn fersiwn gynnar o'r hyn a ddatblygodd yn maelfa ond mae sawl nodwedd wahanol - llai o siopau a bwytai cadwyn, mynedfeydd agored a dim amgylchedd wedi ei dymheru (boed i gadw'r tymheredd yn isel neu'n uwch).
Mathau
[golygu | golygu cod]Gellir lleoli'r maelfa ynghannol ardal siopa draddodiadol tref neu ddinas, er enghraifft Canolfan Dewi Sant 2 Caerdydd
Canolfan siopa aml-lawr
[golygu | golygu cod]Weithiau mae rhai canolfannau siopa wedi'u lleoli mewn ardaloedd diwydiannol segur yn cael eu hadfer yn iawn, yn yr achos hwn maent yn cael eu nodweddu gan fod y siopau wedi'u trefnu ar lawer lloriau.
Siopa canolfan-gyfeiriadol
[golygu | golygu cod]Mae'r ganolfan siopa gyfeiriol neu amlbwrpas yn wahanol i'r ganolfan siopa draddodiadol ar gyfer y gwasanaethau a gynigir a'r gweithgareddau a gynhelir yno. Mae canolfan siopa yn strwythur sy'n cynnwys archfarchnad neu archfarchnad (GDO), wedi'i amgylchynu gan gyfres o siopau (arcêd siopa) a bwytai.
- Maelfa Maestref - Er nad yw'r maelfa maestref dan do yn gyffredin yng Nghymru, lle tueddir i'r maelfa fod ynghannol y ddinas, megis St Davids 2 (Caerdydd) a'r Quadrant (Abertawe), ceir maelfa maestref yn gyffredin mewn gwledydd eraill. Mae rhain yn gallu bod o dan fygythiad wrth i bobl ffafrio profiad siopa mwy unigolyddol a haws i'w gyrraedd.[5][6]
Manteision ac Anfanteision Maelfa
[golygu | golygu cod]Manteision:
- Glendid - mae cadw maelfa dan do yn lan yn llawer haws a rhatach na glanhau strydoedd canolfan siopa draddodiadol
- Amddiffyn rhag tywydd- gormod o law mewn gwlad fel Cymru; rhy boeth mewn gwlad fel Israel
- Hamdden ac Iechyd - ceir campfa, sinemâu, bwytai
- Parcio- ceir disgownt parcio i ddefnyddwyr neu parcio am ddim
- Diogelwch - ceir drysau caedig ar fynedfa'r maelfa, bydd staff diogelwch, camerâu diogelwch, dim ceir na thraffig
Anfanteision:
- Pellter - gall y maelfa fod y tu allan i'r dref ac ond yn gyraeddadwy mewn car neu wasanaeth bws wedi ei drefnu gan gwmni neu busnes yn y Maelfa
- Diffyg amrywiaeth - bydd y Maelfa'n arferol yn cynnwys siopau a bwytai cadwyn, ceir diffyg amrywiaeth manwerthwyr rhwng un maelfa a'r llall mewn dinasoedd ar draws y wlad neu'n ryngwladol hyd yn oed
- Dirywiad lleol - gall agor maelfa dynnu cwsmeriaeth oddi ar stryd siopa draddodiadol ac nodweddiadol. Gwelwyd hyn yn achos Stryd Dizengoff yn Tel Aviv, stryd â bu ar un adeg yn symbol o lwyddiant y ddinas ond a aeth i edrych yn fler a thlawd yn yr 1970au yn dilyn sawl newid yn yr hinsawdd masnachol gan gynnwys agor Maelfa Dizengoff.
Rhai o'r Maelfâu mwyaf yn y Byd
[golygu | golygu cod]-
Y 'Port Grand Food and Entertainment Complex' yn Karachi maelfa fwyaf amlwg y ddinas a hefyd stryd fwyd fwyaf Asia
-
Berjaya Times Square yn Kuala Lumpur, Malaysia
-
Canal Walk yn Kaapstad, De Affrica
-
'Iguatemi Fortaleza Shopping' yn Fortaleza, Brasil
-
'Gateway Theatre of Shopping' yn Durban, De Affrica
Maelfâu Cymru
[golygu | golygu cod]- St Davids 2, Caerdydd - yn gam ymhellach i Ganolfan Siopa Dewi Sant a agorwyd yn yr 1980au, mae Dewi Sant 2,[7] yn honi y bydd yn "elevate Cardiff into a world-class shopping destination; over 300 apartments, a significant investment in the public realm and public art, and an iconic new library building, this development brings a new cosmopolitan look and feel to the city." Mae'r cwmni Landsec, sydd wedi eu rhestri ar y FTSE 100, wedi buddsoddi £675 i greu "... a spectacular new retail destination in Cardiff. It has created one of the largest centres in the country that represents 39% of the total retail floor space in the city – equivalent to 30 football pitches of shopping!"[8]
- Quadrant, Abertawe- efallai y maelfa enfawr gyntaf yng Nghymru. Mae'r Quadrant ynghannol dinas Abertawe ac yn cynnwys adnoddau megis wi-fi am ddim, siopau, bwytai a hwylstod agosrwydd i brif orsaf bysiau'r ddinas. Ceir dros 80 o siopau a fwytai yn y ganolfan.[9]
- Dôl yr Eryrod (Eagle's Meadow), Wrecsam - yn ogystal â dros 30 o siopau a bwytai, mae Dôl yr Eryrod yn cynnwys sawl nodwedd arall sy'n gyffredin i'r maelfa ac sy'n eu gwneud yn boblogaidd gan nifer ac yn fan ymgynnull a chyfarfod i nifer. Mae i'r maelfa nodweddion fel tai bach a loceri casglu nwyddau Amazon.[10]
Methiant Maelfa Llanedern, Caerdydd
[golygu | golygu cod]- Maelfa Llanedern, Caerdydd - canolfan siopa a alwyd yn swyddogol yn Maelfa. Roedd yn rhan o stâd newydd o dai yn nwyrain Caerdydd. Daeth ei fethiant masnachol yn symbol o fethiant cynllunio trefol. Er mai bychan oedd y maelfa, methodd â denu siopwyr, gyda nifer yn parhau i deithio i ganol y ddinas neu at strydoedd mwy traddodiadol yn y Rhâth. Cymaint bu methiant y maelfa fel y daeth yn ddrwgenwog ac yn destun arddangosfa gelf gan yr artist, Sean Edwards.[11] Cafwyd cynlluniau i adnewyddu'r ganolfan.[12] Erbyn 2021 roedd yr hen ganolfan siopa dan-do, y Maelfa, wedi ei ddymchwel yn llwyr ac yn ei le adeiladwyr tŵr Tȳ Maelfa (a gamsillefir fel 'Ty Maelfa') sy'n cynnwys siop ar y llawr nwyddau ail-law ar y llawr waelod a aneddiadau yn y lloriau uwchben a gyferbyn â'r tŵr, canolfan siopa fechan awyr agored yn cynnwys fferyllydd, becws, archfarchnad fechan, byrbrydoedd a siop trin gwallt.[13]
Gweler Hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Maelfa". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
- ↑ Ó hAnnaidh, Iain (29 Medi 2016). "Tybed faint yw dylanwad William Owen-Pughe ar enwau lleoedd Cymru (a thu hwnt)?". Tudalen Facebook Enwau Lleoedd (Welsh Place Names).
- ↑ "The decline of established American retailing threatens jobs". The Economist. 13 Mai 2017.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-07. Cyrchwyd 2018-11-04.
- ↑ Moore, Robbie (26 Chwefror 2013). "The Death of the American Mall and the Rebirth of Public Spac". The Inernational. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-13. Cyrchwyd 2018-11-04.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Millar, Lisa (28 Ionawr 2015). "Dead malls: Half of America's shopping centres predicted to close by 2030". ABC News.
- ↑ "St David's 2 About Us". Gwefan St David's 2. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
- ↑ https://stdavidscardiff.com/our-business/about-us
- ↑ "The Quadrant Welcome Croeso". Gwefan The Quadant. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-07. Cyrchwyd 2018-11-04.
- ↑ "Sean Edwards Maelfa". Spike Island. 2011. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
- ↑ "This is what the new Maelfa shopping centre will look like The multi-million pound Maelfa Regeneration Scheme is set to transform Llanedeyrn". Wales Online. 19 Ionawr 2017.
- ↑ "Byw yn Llanedern nes naw oed. Arfer cerdded i ganolfan siopa dan-do y 'Maelfa'. Erbyn 1990au y Maelfa yn fethiant, twll o le a set distopiaidd ar Dr Who. Dymchwelwyd. Yn ei le tŵr Tŷ Maelfa, â siop ar llawr waelod a chanolfan siopau bach. Lot mwy dymunol. Cynllun trefol gwell.👍". Twitter @SionJobbins Siôn T. Jobbins. 24 Hydref 2021.