Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Ludiad

Oddi ar Wicipedia
Ludiad
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwleidyddol, Syndicaliaeth, y mudiad llafur Edit this on Wikidata
Daeth i ben1817 Edit this on Wikidata
Rhan oy mudiad llafur Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu11 Mawrth 1811 Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arweinydd y Luddites, 1812.

Sefydliad cyfrinachol[1] o weithwyr tecstilau Lloegr yn y 19eg ganrif oedd y Ludiaid. Roedd yn garfan eithafol a ddinistriodd beiriannau tecstilau fel math o brotest. Roedd y grŵp yn protestio yn erbyn defnyddio peiriannau mewn “dull twyllodrus” i hepgor arferion llafur safonol.[2] Roedd Ludiaid yn ofni y byddai'r amser a dreulid yn dysgu sgiliau eu crefft yn mynd yn wastraff, gan y byddai peiriannau'n disodli eu rôl yn y diwydiant.[3] Dros amser, mae'r term wedi dod i olygu un sy'n gwrthwynebu diwydiannu, awtomeiddio, cyfrifiaduro, neu dechnolegau newydd yn gyffredinol.[4]

Achosodd cyflwyniad mecaneiddio a pheiriannau newydd y Chwyldro Diwydiannol wrthwynebiad gan weithwyr tecstiliau a oedd yn gweithio yn y melinau tecstiliau, er enghraifft, y gwehyddion a’r hosanwyr.  Bu protestio a therfysgu yn erbyn y newidiadau yr oedd y fath dechnegolau wedi  eu hachosi yn eu harferion gwaith gyda llawer yn colli eu swyddi. Cynhyrchwyd y brethyn yn gyflymach gan y peiriannau newydd ac yn rhatach na’r hyn oedd y gwehyddion yn medru ei wneud yn eu cartrefi eu hunain.  Bu’r Ludiaid yn protestio rhwng 1811 – 1817 gyda’r ymosodiad cyntaf ym mis Mawrth 1811 yn Nottingham. Anfonwyd llythyrau bygythiol yn enw ‘General Ludd’ neu ‘King Ludd’ i berchnogion ffatrïoedd.  Erbyn dechrau 1812 roedd yr ymosodiadau wedi lledaenu i West Riding yn Swydd Gaerefrog lle cymerodd tocwyr hynod grefftus ran mewn cyrchoedd yn ystod y nos i ddinistrio fframiau a gweithdai. Tocwyr oedd y gweithwyr a oedd yn gorffen darnau o frethyn ac roedd eu bywoliaeth wedi cael ei dinistrio bron yn gyfan gwbl gan ddyfais y ffrâm lafnu.[5][6] Aeth perchnogion melinau a ffatri at saethu protestwyr ac yn y pen draw cafodd y mudiad ei atal gan rym cyfreithiol a milwrol.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Roedd 'Lud' neu 'Ludd' (Cymraeg: Map Lludd Beli Mawr), yn ôl Hanes chwedlonol Sieffre o Fynwy am Frenhinoedd Prydain a thestunau Cymraeg canoloesol eraill, yn Frenin Celtaidd ar 'Ynysoedd Prydain' yn y cyfnod cyn-Rufeinig , a sefydlodd dinas Llundain ac a gladdwyd yn Ludgate. Yn y fersiynau Cymraeg o Historia, Sieffre, a elwir fel arfer yn Brut y Brenhinedd, fe'i gelwir yn Lludd fab Beli, gan sefydlu'r cysylltiad â'r Cyfnod Lludd Llaw Eraint o fewn mytholeg gynnar.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Byrne, Richard (August 2013). "A Nod to Ned Ludd" (yn en-US). The Baffler 23 (23): 120–128. doi:10.1162/BFLR_a_00183. https://thebaffler.com/salvos/a-nod-to-ned-ludd. Adalwyd 6 November 2018.
  2. Conniff, Richard (March 2011). "What the Luddites Really Fought Against". Smithsonian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-10-19.
  3. "Who were the Luddites?". History.com. Cyrchwyd 2016-12-12.
  4. "Luddite" Archifwyd 2021-02-20 yn y Peiriant Wayback Compact Oxford English Dictionary at AskOxford.com. Accessed 22 February 2010.
  5. "Anhrefn diwydiannol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  6. "Radicaliaeth a Phrotest 1810-1848" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.