Llenyddiaeth Saesneg Nigeria
Enghraifft o'r canlynol | sub-set of literature |
---|---|
Rhan o | llenyddiaeth Saesneg, Nigerian literature |
Er mai ail iaith ydy'r Saesneg i drwch y boblogaeth, yr honno yw prif iaith lenyddol Nigeria. Cyflwynwyd y Saesneg i'r wlad yng nghyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig, ac yn sgil annibyniaeth ym 1960 penderfynodd y llywodraeth newydd i gadw'r Saesneg yn iaith swyddogol mewn ymgais i uno amryw grwpiau ethnig y wlad drwy beidio â dyrchafu'r un iaith frodorol yn bwysicach nag unrhyw un arall. Câi'r Saesneg ei hystyried yn iaith ddiwylliedig, yn aml ar draul ieithoedd eraill y wlad, a throdd y mwyafrif o lenorion Nigeriaidd at ysgrifennu yn Saesneg yn hytrach na'u mamieithoedd. Daw'r nifer fwyaf o lenorion Saesneg Gorllewin Affrica o Nigeria.
Rhennir hanes llenyddol modern Saesneg y wlad yn aml yn bedair cenhedlaeth. Ymgododd y genhedlaeth gyntaf yn y 1950au, wrth i'r haul ddechrau machlud ar yr Ymerodraeth Brydeinig. Ar y cyd â thwf cenedlaetholdeb a'r frwydr wrth-drefedigaethol, datblygodd corff brodorol o ysgrifennu—er yn iaith y coloneiddiwr—gyda phwyslais ar hunaniaeth, diwylliant Affricanaidd, a phrofiad y bobl dduon. Hon oedd oes dwy o brif lenorion Nigeria, y nofelydd Chinua Achebe a'r dramodydd Wole Soyinka, a ddaeth yn enwog ar draws y byd am eu gwaith. Soyinka oedd yr Affricanwr croenddu cyntaf i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, a hynny ym 1986. Ymatebai'r genhedlaeth hon hefyd i'r tensiynau ethnig a ffrwydrodd yn y weriniaeth newydd-anedig, y rhyfel cartref a'r gwrthdaro ethnig yn Biaffra. Cychwynnodd yr ail genhedlaeth ysgrifennu yn nechrau'r 1970au, a chyrhaeddai ei hanterth yn y 1980au. Trodd y to hwn ei sylw'n fwyfwy at drais a llygredigaeth wleidyddol, gan fynegi pryder ynghylch cwymp yr hen foesau a beirniadu'r elitau milwrol a llywodraethol. Cafodd nifer o'r ail genhedlaeth eu targedu gan sensoriaeth a gormes y wladwriaeth, a dirywiodd gwariant ar y celfyddydau. Fodd bynnag, cafodd adfywiad llenyddol ei yrru gan y drydedd genhedlaeth yn y 1990au, yn eu plith Ben Okri a enillodd Wobr Booker ym 1991. Ceisiodd Okri a'i gyfoedion dorri â chonfensiynau'r genhedlaeth gyntaf ac arloesi themâu a thechnegau newydd yn llên Nigeria. Erbyn y 2020au, cydnabuwyd pedwaredd genhedlaeth o lenorion Nigeriaidd, eu gwaith yn ymwneud â hanes cyn-drefedigaethol a diwylliannau cynhenid Nigeria yn ogystal â'r byd modern a phynciau cyfoes.[1]
Y cyfnod trefedigaethol
[golygu | golygu cod]Un o'r awduron nodedig cynharaf o Nigeria oedd Amos Tutuola (1920–97). Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, The Palm-Wine Drinkard, ymhen deuddydd ym 1946, a fe'i cyhoeddwyd yn Llundain ym 1952 ar gynnig T. S. Eliot. Derbyniodd glod oddi ar Dylan Thomas.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Gazelle Mba, "The four generations: Nigerian literature, the Booker Prize and beyond", The Booker Prizes (31 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) Alastair Niven, "Obituary: Amos Tutuola", The Independent (15 Mehefin 1997). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Ionawr 2024.