Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Osetiaid

Oddi ar Wicipedia
Osetiaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithOseteg, rwseg edit this on wikidata
Poblogaeth670,000 Edit this on Wikidata
CrefyddCristnogaeth, islam, eglwysi uniongred edit this on wikidata
Rhan oPobl o Iran Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cenedl a grŵp ethnig Indo-Iranaidd sydd yn frodorol i ardal Osetia yn y Cawcasws yw'r Osetiaid. Maent yn disgyn o'r Alaniaid, nomadiaid hynafol a ymfudodd ar draws y stepdiroedd. Eu hiaith yw Oseteg a siaradir gan oddeutu 600,000 o bobl yn Ne a Gogledd Osetia, er bod pryder am hyfywder yr iaith o du pwysau'r iaith Rwseg.[1]

Datblygodd hunaniaeth yr Osetiaid yn y 13g, pan symudodd yr Alaniaid i'r mynyddoedd yn sgil goresgyniadau'r Mongolwyr. Siaradent yr iaith Oseteg, sydd yn tarddu o'r ieithoedd Sgytheg a Sarmateg, ac mae ganddynt draddodiad llenyddol o arwrgerddi sy'n traddodi hanesion rhyfelwyr y Narts. Cawsant eu troi'n Gristnogion dan ddylanwad eu cymdogion, y Georgiaid.[2]

Rhennir mamwlad yr Osetiaid yn wleidyddol yn yr 21g: un o weriniaethau Ffederasiwn Rwsia yw Gogledd Osetia-Alania, a thiriogaeth ddadleuol yw De Osetia a hawlir gan Georgia ond cydnabyddir gan Rwsia ac ychydig o wledydd eraill yn wladwriaeth annibynnol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "One Nation, Two Polities, Two Endangered Ossetian Languages?". Radio Free Europe/Radio Liberty. 28 Mai 2015.
  2. Carl Waldman a Catherine Mason. Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 572–73.