Jules Michelet
Jules Michelet | |
---|---|
Ganwyd | 22 Awst 1798 Paris, rue Saint-Denis |
Bu farw | 9 Chwefror 1874 Hyères |
Man preswyl | Naoned |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | aggregation of modern literature, licence |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, archifydd, llenor, dyddiadurwr, athro cadeiriol, cyfieithydd, athronydd |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Introduction à l'Histoire universelle, Histoire de France, Histoire de la revolution francaise, Satanism and Witchcraft |
Prif ddylanwad | John Locke, Jean-Antoine-Nicolas de Caritat de Condorcet, David Hume, Gottfried Wilhelm Leibniz |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | Jean-François Furcy-Michelet |
Priod | Athénaïs Michelet, Pauline Rousseau |
Partner | Françoise Adèle Poullain-Dumesnil |
Plant | Adèle Michelet, Charles Michelet, Yves-Jean-Lazare Michelet |
Gwobr/au | Cystadleuthau Cyffredinol, Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Hanesydd o Ffrainc oedd Jules Michelet (21 Awst 1798 – 9 Chwefror 1874).[1] Ei gampweithiau ydy Histoire de France (1833–67), hanes Ffrainc mewn 19 cyfrol, a Histoire de la révolution française (1847–53), hanes y Chwyldro Ffrengig mewn saith cyfrol.
Nodweddir ei waith gan ei daliadau cenedlaetholgar, ei arddull ddramatig, a'i atgasedd tuag at yr Oesoedd Canol, yr Eglwys Gatholig, a'r frenhiniaeth. Michelet oedd yr hanesydd cyntaf i roi'r enw Renaissance ar gyfnod y Dadeni Dysg.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Jules Michelet ym Mharis ar 21 Awst 1798. Argraffwr oedd ei dad, ac roedd teulu ei fam yn hanu o gefn gwlad. Er yr oeddynt yn dlawd, yn enwedig wedi i lywodraeth Napoleon gau'r wasg, gweithiodd ei dad i ddarparu addysg i Jules.
Gyrfa academaidd
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd Michelet ar ei yrfa'n athro yn 1822. Fe'i penodwyd yn athro hanes ac athroniaeth yn yr École Normale Supérieure yn 1827.[2] Ymhlith ei gyhoeddiadau cynnar oedd cyfieithiad o Scienza nuova gan Giovanni Battista Vico.
Ymunodd Michelet â'r Collège de France yn 1838. Cydweithiodd gyda Edgar Quinet ar lyfr oedd yn lladd ar yr Iesuwyr. Yn ei lyfr Le Peuple (1846), mynegodd ei gydymdeimlad â'r dosbarthiadau israddol mewn cymdeithasau diwydiannol.
Cefnogodd wethoedd y Chwyldro Ffrengig, a chafodd ei siomi gan fethiant chwyldroadau 1848, diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol gan Louis Napoleon yn 1851, a sefydlu'r Ail Ymerodraeth yn 1852. Symudodd i'r Eidal am flwyddyn.[2] Cafodd ei ddelfrydau hanesyddol eu chwalu gan Ryfel Ffrainc a Phrwsia yn 1870.
Llyfrau am bynciau eraill
[golygu | golygu cod]Dan ddylanwad ei ail wraig, Atanaïs Mialaret (priodasant yn 1849), ymddiddorodd Michelet mewn natur. Ysgrifennodd gyfres o lyfrau am fyd natur: L'Oiseau (1856), L'Insecte (1858), La Mer (1861), a La Montagne (1868). Cyhoeddodd hefyd y llyfrau L'Amour (1858) a La Femme (1860), gwaith am wrachod yn yr Oesoedd Canol, La Sorcière (1862), ac astudiaeth o grefyddau'r byd, La Bible de l'humanité (1864).
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Hyères ar 9 Chwefror 1874 o drawiad ar y galon yn 75 oed.[2] Cyhoeddwyd ei ddyddiaduron bron can mlynedd wedi ei farwolaeth: Journal, cyf. 1 (1959) a chyf. 2 (1962), Écrits de jeunesse (1959).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Jules Michelet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Michelet, Jules (1798–1874)" yn yr Encyclopedia of European Social History (Gale Group, 2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Mawrth 2019.