Jon Hamm
Jon Hamm | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1971 St. Louis, Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, athro, cyfarwyddwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, waiter, cynhyrchydd teledu |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Anna Osceola |
Partner | Jennifer Westfeldt |
Gwobr/au | Golden Globes, Gwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama |
Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu Americanaidd yw Jonathan Daniel Hamm (ganwyd 10 Mawrth 1971)[1][2] a gaiff ei adnabod orau am chwarae rhan Don Draper, gweithredwr hysbysebu, yng nghyfres deledu AMC, Mad Men (2007–2015).
Roedd yn byw yn Los Angeles am ran helaeth o ganol y 1990au, gan ymddangos mewn cyfresi teledu fel Providence, The Division, What About Brian, and Related. Yn 2000, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm nodwedd yn y ffilm antur gofod, Space Cowboys. Y flwyddyn ganlynol, cafodd ran bach yn y gomedi annibynnol, Kissing Jessica Stein (2001).
Cafodd led adnabyddiaeth pan ddechreuodd Mad Men yng Ngorffennaf 2007. Enillodd ei berfformiad ef Wobr Golden Globe ar gyfer Actor Gorau Mewn Cyfres Deledu – Drama yn 2008 ac eto yn 2016, a Gwobr Primetime Emmy ar gyfer yr Actor Gorau Mewn Cyfres Ddrama yn 2015. Cyfarwyddodd dwy bennod o'r sioe.
Yn 2008, ymddangosodd Hamm yn ailwampiad y ffilm ffuglen gwyddoniaeth The Day the Earth Stood Still. Roedd ei ran arweiniol cyntaf mewn ffilm yn 2010 yn y ddrama annibynnol Stolen. Cafodd hefyd rannau cefnogol yn ffilmiau The Town (2010), Sucker Punch (2011), a Bridesmaids (2011). Mae wedi derbyn 16 enwebiad Gwobr Primetime Emmy am ei berfformiadau yn Mad Men, 30 Rock (2006–2013), a Unbreakable Kimmy Schmidt (2015–presennol).
Mae ei gredydau teledu eraill yn cynnwys ymddangos yng nghyfres Sky Arts, A Young Doctor's Notebook a rhannau gwestai yn Black Mirror, Parks and Recreation a Wet Hot American Summer: First Day of Camp. Mae hefyd wedi cael rhannau lleisio yn ffilmiau Shrek Forever After (2010) a Minions (2015).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Monitor". Entertainment Weekly (1250). March 15, 2013. t. 23.
- ↑ "Jon Hamm". TVGuide.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 6, 2015.