Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Idle No More

Oddi ar Wicipedia
Idle No More
Enghraifft o'r canlynolprotest Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTachwedd 2012 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://idlenomore.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorymdaith yn Victoria, British Columbia.

Mudiad protest sy'n perthyn i hawliau'r bobloedd brodorol yng Nghanada yw Idle No More.[1][2] Sefydlwyd yn Rhagfyr 2012 gan bedair ymgyrchydd, tair ohonynt yn frodorion. Mudiad gwerin gwlad ydyw sy'n galw ar y Cenhedloedd Cyntaf, y Métis a'r Inuit, yn ogystal â Chanadiaid eraill sy'n cefnogi'r achos. Prif ysbrydoliaeth y mudiad oedd protest newyn y Benaethes Attawapiskat Theresa Spence[3] ac ymledai'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Cychwynnodd fel ymateb i gamdriniaethau honedig gan lywodraeth Geidwadol Stephen Harper. Dadleuir bod Mesur C-45 yn arbennig yn dangos diffyg parch i hawliau'r brodorion, drwy newid Deddf yr Indiaid (1876) a gwanhau arolygiaeth dros yr amgylchedd.[4] Ymhlith gweithredoedd y protestwyr yn Rhagfyr 2012 ac Ionawr 2013 roedd gorymdeithiau a ralïau, dawnsio a churo drymiau, ac anufudd-dod sifil, yn enwedig atal ffyrdd a rheilffyrdd.[5][6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Galloway, Gloria (20 Rhagfyr 2012). First nations #IdleNoMore protests push for ‘reckoning’. The Globe and Mail. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2012.
  2. (Saesneg) Smith, Teresa (26 Rhagfyr 2012). Theresa Spence’s Christmas day spent continuing Idle No More protest. National Post. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2012.
  3. (Saesneg) Aulakh, Raveena (25 Rhagfyr 2012). "Chief Theresa Spence's liquid diet has full backing of Attawapiskat residents". Toronto: theStar.com. Cyrchwyd 1 Mawrth 2017.
  4. (Saesneg) 9 questions about Idle No More, CBC (5 Ionawr 2013). Adalwyd ar 1 Mawrth 2017.
  5. (Saesneg) Canada native hunger strike sparks Quebec blockade, BBC (2 Ionawr 2013). Adalwyd ar 1 Mawrth 2017.
  6. (Saesneg) Native Canadian groups in protest 'day of action', BBC (17 Ionawr 2013). Adalwyd ar 1 Mawrth 2017.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: