Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Hans Küng

Oddi ar Wicipedia
Hans Küng
Yr Athro Hans Küng yn darlithio yn y Dominicuskerk (Eglwys y Dominiciaid) yn Amsterdam, ym 1973
Ganwyd19 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Sursee Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata
Tübingen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Y Brifysgol Archoffeiriadol Gregoraidd
  • Catholic University of Paris
  • Collegium Germanicum et Hungaricum Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Louis Bouyer Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, llenor, athronydd, academydd, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCroes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Otto Hahn Peace Medal, Theodor Heuss Award, Ernst Robert Curtius Award, honorary doctor of Loyola University Chicago Edit this on Wikidata
llofnod

Diwinydd ac offeiriad Catholig ac ysgolhaig o'r Swistir oedd Hans Küng (19 Mawrth 19286 Ebrill 2021).

Ganed ef yn Sursee, yng nghanton Lucerne, y Swistir, yn fab i werthwr esgidiau a merch ffermwr. Roedd ganddo un brawd a phum chwaer iau. Yn ôl ei atgofion, teimlodd Hans alwedigaeth yr offeiriadaeth yn 11 oed. Astudiodd yn y Brifysgol Grigoraidd yn Rhufain, ac yno ysgrifennodd ei draethawd ymchwil ar ddyneiddiaeth anffyddiol Jean-Paul Sartre a diwinyddiaeth Brotestannaidd Karl Barth. Cafodd Küng ei ordeinio'n offeiriad ym 1954 ym Masilica Sant Pedr.[1] Derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn diwinyddiaeth o Athrofa Gatholig y Sorbonne ym 1957[2] cyn iddo ddychwelyd i Lucerne i weithio yn y plwyf am 18 mis.[1]

Symudodd Küng i Orllewin yr Almaen ac addysgodd ym Mhrifysgol Münster o 1959 i 1960[2] ac yn swydd athro diwinyddiaeth sylfaenol ym Mhrifysgol Tübingen o 1960 i 1963. Aeth i Ail Gyngor y Fatican ym 1962 pan gafodd ei benodi'n peritus (ymgynghorwr diwinyddol) gan y Pab Ioan XXIII. Enillodd rywfaint o nod fel diwinydd rhyddfrydol ifanc, dyn golygus mewn siwt swyddfa ac yn gyrru sbortscar, ac aeth ar daith ddarlithio i sefydliadau diwinyddol yn Unol Daleithiau America, ac yno fe'i gwahoddwyd i'r Tŷ Gwyn i gwrdd â John F. Kennedy, arlywydd Catholig cyntaf y wlad. Ym 1963 fe'i penodwyd yn athro diwinyddiaeth ddogmataidd ac eciwmenaidd ac yn gyfarwyddwr cyntaf y Sefydliad Ymchwil Eciwmenaidd ym Mhrifysgol Tübingen. Yno, o 1965 i 1968, gweithiodd gyda Joseph Ratzinger—yn ddiweddarach Pab Bened XVI.[1]

Bu Küng yn awdur ac ysgolhaig hynod o doreithiog, a chyhoeddodd fwy na hanner cant o lyfrau, gan gynnwys hunangofiannau astudiaethau o amryw bynciau megis bodolaeth Duw, y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, bywyd ar ôl marwolaeth, Islam, Thomas More, Sigmund Freud, a Mozart. O ganlyniad i'w gyfrol Unfehlbar? Eine Anfrage (1970), ar bwnc anffaeledigrwydd y Pab, amheuodd y Fatican i Küng wyro oddi ar ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig. Ym 1979 derbyniodd ŵys gan y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd, ond gwrthododd deithio i'r Fatican i amddiffyn ei hunan gan alw'r fath ymchwiliad yn "dreial o'r Oesoedd Canol". O ganlyniad, collodd Küng ei drwydded eglwysig i addysgu diwinyddiaeth mewn prifysgolion Catholig. Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan nifer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys Eglwys Loegr a Chyngor Eglwysi'r Byd, a chynhaliwyd gwylnos amdano gan fil o fyfyrwyr yn Tübingen. Bu'n rhaid i Brifysgol Tübingen symud ei broffesoriaeth a'r Sefydliad Ymchwil Eciwmenaidd o'r gyfadran Gatholig a'u rhoi o dan awdurdod senedd y brifysgol.[1] Gweithiodd Küng ym Mhrifysgol Tübingen hyd at 1996. Wedi iddo ymddeol, sefydlodd y Stiftung Weltehos (Sefydliad Moeseg y Byd) i hyrwyddo cydweithredu rhwng gwahanol grefyddau'r byd. Bu farw Hans Küng yn Tübingen yn 93 oed.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Peter Stanford, "Hans Küng obituary", The Guardian (8 Ebrill 2021). Adalwyd ar 8 Ebrill 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Hans Küng. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2021.
  3. (Saesneg) Douglas Martin, "Hans Küng, Catholic Theologian With a Powerful Critique, Dies at 93", The New York Times (6 Ebrill 2021). Adalwyd ar 8 Ebrill 2021.