Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Ffrwydrad Charsadda, 2011

Oddi ar Wicipedia
Ffrwydrad Charsadda, 2011
Delwedd:Lady Reading Hospital Peshawar.JPG, PakistanNorthWestFrontier.png
Enghraifft o'r canlynolhunanfomio mewn car Edit this on Wikidata
Dyddiad13 Mai 2011 Edit this on Wikidata
Lladdwyd98 Edit this on Wikidata
LleoliadCharsadda District Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Khyber Pakhtunkhwa ym Mhacistan.

Ymosodiad terfysgol yng nghaer Shabqadar yn Ardal Charsadda, Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan, oedd ffrwydrad 2011 Charsadda. Bu farw o leiaf 80 o gadetiaid pan chwythodd hunan-fomiwr ei hunan i fyny gyda dau fom mewn canolfan hyfforddi Heddlu'r Ffin am 6 y bore amser lleol, 13 Mai 2011.[1] Anafwyd o leiaf 150 o bobl eraill.

Hawliodd Tehrik-i-Taliban Pakistan gyfrifoldeb dros y ffrwydrad, gan honni ei fod yn ddial am farwolaeth Osama bin Laden ar ddechrau'r mis.[2] Credir rhai swyddogion lleol y gall yr ymosodiad fod yn ymateb i weithredoedd Byddin Pacistan yn erbyn brwydrwyr y Taleban ar y ffin ag Affganistan yn hytrach na dial am bin Laden.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Perlez, Jane (13 Mai 2011). Questions of Motives in Bombing in Pakistan. The New York Times. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
  2. (Saesneg) Pakistan bombings: Taliban admits Shabqadar attacks. BBC (13 Mai 2012). Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.