Elinor Barker
Gwybodaeth bersonol | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Elinor Jane Barker | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Caerdydd, Cymru | 7 Medi 1994||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Taldra | 1.63 m (5 tr 4 mod)[1] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwysau | 56 kg (123 lb; 8.8 st)[1] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwybodaeth tîm | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tim presennol | Team USN / Matrix Fitness Pro Cycling | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Disgyblaeth | Trac a ffordd | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rôl | Reidiwr | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Math reidiwr | Ras ymlid/Treialon amser | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tîm(au) amatur | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2005–2007 | Maindy Flyers | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2008 | Kidney Wales For Escentual | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2009–2011 | Cardiff Ajax | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2012 | Scott Contessa Epic RT[2] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tîm(au) proffesiynol | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2013–2014 | Wiggle-Honda | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
2015– | Matrix Fitness Pro Cycling | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Record medalau
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddarwyd y wybodlen ar 7 Ebrill 2018 |
Beiciwr o Gaerdydd ydy Elinor Jane Barker (ganwyd 7 Medi 1994), sy'n aelod o 'Feicio Cymru' a 'Phrydain', ac ar y ffordd, mae'n aelod o Wiggle High5. Arferai reidio ar y ffordd dros Matrix Fitness Pro Cycling. Mae Barker wedi ennill Pencampwriaeth Ras Ymlid y Byd ddwywaith yn ogystal â medal aur yn yr un gamp yng Ngemau Olympaidd yr Haf yn 2016. Enillodd y tîm ras ymlid Prydain Fawr fedal arian yng Ngemau Olympaidd 2020. Fe'u curwyd gan yr Almaen, a dorrodd record y byd.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Magwyd Elinor Barker yn ardal Mynydd Bychan, Caerdydd, yn ferch i Graham Barker, dirprwy bennaeth yn Ysgol Gyfun St Julian, Casnewydd.[4] Mae ei chwaer Megan, sydd dair blynedd yn iau, hefyd yn feicwraig llwyddiannus.[5]
Dechreuodd Barker seiclo gyda'r Maindy Flyers pan oedd yn 10 oed, fel ffordd o osgoi gorfod mynychu dosbarthiadau nofio[4][6]. Mynychodd Ysgol Uwchradd Llanisien ble roedd yn astudio Lefel-A[4] cyn cael ei derbyn yn aelod o Academi Datblygu Olympaidd British Cycling.[5] Wedi iddi ennill y Ras yn erbyn y Cloc ym Mhencampwriaethau Iau y Byd yn 2012 cafodd ei henwebu yn Chwaraewraig Iau y Flwyddyn Carwyn James, yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru[7].
Yn 2013 daeth yn Bencampwr y Byd fel aelod o dîm Ras Ymlid Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Minsk, Belarws gyda Laura Trott a Dani King[8] a llwyddodd i amddiffyn y goron yn Cali, Colombia yn 2014 ynghyd â Laura Trott, Katie Archibald a Joanna Rowsell[8].
Roedd yn aelod o dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban gan ennill medal arian yn y Ras bwyntiau ac efydd yn y Ras scratch[9][10].
Yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil enillodd Barker fedal aur fel aelod o dîm ras ymlid Prydain Fawr gyda Joanna Rowsell, Laura Trott a Katie Archibald gyda'r pedwarawd yn llwyddo i dorri y record byd yn y rownd derfynol[11].
Ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2017 casglodd Barker ddwy fedal arian yn y Ras scratch a'r madison, ochr yn ochr ag Emily Nelson[12][13] cyn cipio ei choron unigol cyntaf wrth ennill Pencampwriaeth y Byd yn y Ras bwyntiau[14]
Yn 2018 llwyddodd i ennill fedal aur yn y Ras bwyntiau yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur, Awstralia[15].
Ennillodd Barker a Neah Evans medal arian yn y ras Madison yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024.[16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Elinor Barker: Biography". Glasgow 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-14. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Individual/Points". British Cycling. Cyrchwyd 23 Ionawr 2013.
- ↑ "Olympics: Germany beat Great Britain to win gold in women's team pursuit". Cycling News (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Awst 2021.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Simon Gaskell (2012-09-18). "Cycling gold for Elinor Barker at World Road Championships in Holland". Wales Online.
- ↑ 5.0 5.1 Chris Sidwells (2012-11-22). "Ride: Elinor Barker in South Wales". Cycling Weekly.
- ↑ Alasdair Fotheringham (2012-09-19). "Cycling: Elinor Barker shows next generation is in very safe hands". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-24. Cyrchwyd 2013-01-31.
- ↑ Rebecca Ransom (2012-12-11). "Elinor Barker named Carwyn James Iau Sportswoman of the Year". British Cycling.[dolen farw]
- ↑ 8.0 8.1 "Women's Team Pursuit" (pdf). no-break space character in
|title=
at position 8 (help) - ↑ "Commonwealth Games 2014: Olympic champion Geraint Thomas and world sprint star Becky James head up Welsh cycling team for Glasgow". Wales Online. 2014-07-09.
- ↑ "Glasgow 2014 day four: Elinor Barker denied gold by Laura Trott"". BBC Sport. 2014-07-27.
- ↑ "Wales' Elinor Barker wins gold medal in team pursuit". BBC Sport. 2018-08-14.
- ↑ "Track Cycling World Championships: Elinor Barker pipped for gold". BBC Sport. 2017-04-12.
- ↑ "Track Cycling Worlds: Elinor Barker & Emily Nelson win madison silver". BBC Sport. 2017-04-15.
- ↑ "World Track Cycling Championships: Elinor Barker wins world points race gold". BBC Sport. 2017-04-16.
- ↑ "Commonwealth Games: Elinor Barker wins points race gold, Scots complete podium". BBC Sport. 2018-04-07.
- ↑ "GB's Barker and Evans win madison silver". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Awst 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Proffil Elinor Barker ar Cycling Archives
- Elinor Barker ar Twitter
- CS1 errors: invisible characters
- Pages using infobox cyclist with atypical values for height or weight
- Pobl o Gymru yn y Gemau Olympaidd
- Pobl o Gymru â medal aur yn y Gemau Olympaidd
- Pobl o Gymru â medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024
- Genedigaethau 1994
- Merched yr 20fed ganrif o Gymru
- Merched yr 21ain ganrif o Gymru
- Pobl o Gaerdydd
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Llanisien
- Seiclwyr o Gymru