Eiraght Ashoonagh Vannin
Gwedd
Delwedd:Isle of Man Peel Castle.jpg, Laxey wheel 1.JPG | |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1951 |
Pencadlys | Ynys Manaw |
Gwladwriaeth | Ynys Manaw |
Gwefan | http://www.manxnationalheritage.im/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Eiraght Ashoonagh Vannin (sef "Treftadaeth Genedlaethol Manaw" yn Manaweg; enw Saesneg: Manx National Heritage) yn gorff ar Ynys Manaw sy'n gyfrifol am warchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol yr ynys. Mae'n gyfrifol am reoli'r amrywiol amgueddfeydd, canolfannau dehongli, henebion, safleoedd ac ardaloedd gwarchodedig Ynys Manaw a'r ynysoedd cyfagos.
Yn benodol, mae'n gyfrifol am:
- Gwasanaeth Amgueddfeydd Cenedlaethol Manaw sy'n rheoli tair amgueddfa ar ddeg;
- Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol sy'n rheoli henebion a safleoedd archeolegol a ddarganfuwyd neu a allai fod;
- Gwasanaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n rheoli safleoedd naturiol gwarchodedig er lles ecolegol a thirwedd;
- Yr Archif Genedlaethol sy'n rheoli'r dreftadaeth ddarluniadol, ysgrifenedig, ffotograffig a ffilmograffig;
- Yr Oriel Gelf Genedlaethol sy'n rheoli treftadaeth artistig y gorffennol a'r presennol.