David Roberts (Dewi Havhesp)
David Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Dewi Havhesp |
Ganwyd | Mai 1831 Llandderfel |
Bu farw | Awst 1884 y Bala |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Prif ddylanwad | David Owen |
Bardd Cymraeg oedd David Roberts (Mai 1831 – 27 Awst 1884), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Dewi Havhesp. Fe'i cyfrifir gan rai yn un o englynwyr Cymraeg gorau'r 19eg ganrif.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dewi Havhesp ym mis Mai 1831 ym Mhensingrug, cartref ei rieni, yn Llanfor, ger Y Bala, Meirionnydd. Ef oedd yr hynaf o un ar ddeg o blant. Cymerodd ei enw barddol o nant Hafhesb ger ei gartref. Teiliwr oedd wrth ei alwedigaeth. Un o'i gyfeillion bore oes oedd yr ysgolhaig John Peter (Ioan Pedr). Priododd ei wraig Miriam yn 1855 a chawsant bedwar o blant. Ymsefydlodd y pâr ifanc yng Nghefnddwysarn, ond symudasant yn fuan i fyw yn Llandderfel ac yno y treuliodd y bardd y rhan helaeth o'i oes. Bu farw yn Awst 1884 yn 53 oed.[1]
Gwaith barddonol
[golygu | golygu cod]Cyfansoddodd nifer fawr o englynion a cherddi eraill, ond am iddo lunio englynion yn fyrfyfyr, fel nifer o feirdd lleol eraill ardal Penllyn, heb drafferthu i'w hysgrifennu credir fod canran uchel o'i waith heb ei gofnodi. Un o'i gyfeillion llenyddol oedd y bardd Trebor Mai o Ddyffryn Conwy, yntau'n englynwr poblogaidd yn ei gyfnod. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi yn 1876, sef Oriau'r Awen. Bu'n llwyddiant mawr a chafwyd ail argraffiad yn 1897 a thrydydd yn 1927.
Un o'i edmygwyr oedd T. Gwynn Jones. Yn ei farn ef,
- "Y peth a rydd werth ar waith Dewi yw ei ddawn epigramatig. Nid yw'r ffrwyth bob amser yn gyfartal; bydd weithiau'n mynd yn deneu, ond ni phaid byth â bod yn ddiddorol."[2]
Dyma'r englyn 'Torrwr beddau', er cof am Edward Jones o Landderfel:
- Dyma fedd torrwr beddau, — dyn di-roch,
- Diwyd iawn drwy 'i ddyddiau,
- A gwên bob amser yn gwau,
- Ŵr hynaws, ar ei enau.[3]
Ac un arall am ryfel, sef 'Maes Rhyfel':
- Oer gri'n gor-rwygo'r awyr, — erwau'n cau
- Ar ddarnau cyrff arwyr;
- Dylif gwaed, a dolef gwŷr,
- Gwneud moelydd o gnawd milwyr.[4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Oriau'r Awen (1876; 2il argraffiad 1897; 3ydd argraffiad 1927, Gwasg Y Bala). Ceir rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones a 'byr-hanes' gan R. N. Jones yn y 3ydd argraffiad.