Gwladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia
Gwedd
Math | rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Term sy'n cyfeirio at y chwe gwladwriaeth frenhinol Arabaidd ar lannau Gwlff Persia yw gwladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia neu yn fyr gwladwriaethau Arabaidd y Gwlff, sef Sawdi Arabia, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar, Ciwait, Bahrein, ac Oman. Mae'r chwe gwlad yn aelodau Cyngor Cydweithrediad y Gwlff (GCC). Er bod Irac yn wladwriaeth Arabaidd sydd yn ffinio â Gwlff Persia, gan amlaf ni chynhwysir yn y dynodiad.