Gabon
Arwyddair | Undeb, Gwaith, Cyfiawnder |
---|---|
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran |
Enwyd ar ôl | Caban (dilledyn) |
Prifddinas | Libreville |
Poblogaeth | 2,025,137 |
Sefydlwyd | |
Anthem | La Concorde |
Pennaeth llywodraeth | Raymond Ndong Sima |
Cylchfa amser | UTC+01:00, Amser Gorllewin Affrica, Africa/Libreville |
Gefeilldref/i | Aisai |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 267,667 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Camerŵn, Gweriniaeth y Congo, Gini Gyhydeddol, São Tomé a Príncipe, Angola |
Cyfesurynnau | 1°S 12°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Gabon |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of Gabon |
Pennaeth y wladwriaeth | Ali Bongo Ondimba |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gabon |
Pennaeth y Llywodraeth | Raymond Ndong Sima |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $4,800 million |
Arian | Ffranc Canol Affrica (CFA) |
Canran y diwaith | 20 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 3.909 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.706 |
Gweriniaeth yng ngorllewin Canolbarth Affrica yw Gweriniaeth Gabon neu Gabon (Ffrangeg: La République gabonaise). Mae'r boblogaeth yn isel iawn yn nhermau gwledydd Affrica. Y gwledydd cyfagos yw Gini Gyhydeddol, Camerŵn a Gweriniaeth y Congo. Mae'n wlad sy'n llawn o goedwigoedd trofaol sy'n gorwedd ar arfordir Gwlff Gini. Mae ganddi fauna a flora cyfoethog ac erys ei hamgylchedd heb ei difetha llawer. Roedd gynt yn drefedigaeth Ffrengig. Ers ei annibyniaeth ar Ffrainc yn 1960, mae hi dan reolaeth arlywyddion awtocratig, ond mae system bleidol a chyfansoddiad ganddi newydd ers y 1990au.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y wlad. Gwelwyd tonnau olynol o ymsefydlu yn y wlad, hyd at y 19g, gan bobloedd Pygmi i ddechrau ac yna ar raddau mwy sylweddol gan y Bantu, sy'n ffurfio mwyafrif y boblogaeth erbyn heddiw. Yn ystod y mudo hyn daeth yr Ewropeiaid cyntaf, y Portiwgaliaid, i lannau Gabon yn y 15g. Daw'r enw 'Gabon' o'r enw Portiwgaleg Gabão "penrhyn", oherwydd siâp yr aber lle saif Libreville heddiw. Cipiodd Ffrainc y wlad oddi ar Portiwgal yn 1855. Cafodd y wlad ei hannibyniaeth 17 Awst, 1960.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan Gabon system arlywyddol. Arlywydd cyntaf Gweriniaeth Gabon oedd Léon Mba. Yr ail arlywydd, o 1967 hyd 2009, oedd Omar Bongo Ondimba.
Taleithiau
[golygu | golygu cod]Rhennir Gabon yn 9 talaith:
- Estuaire
- Haut-Ogooué
- Moyen-Ogooué
- Ngounié
- Nyanga
- Ogooué-Ivindo
- Ogooué-Lolo
- Ogooué-Maritime
- Woleu-Ntem.
Iaith a diwylliant
[golygu | golygu cod]Ffrangeg yw'r brif iaith a'r unig iaith swyddogol ond sieredir sawl iaith brodorol yn ogystal.
Gyda'i chymydog Camerŵn mae Gabon yn gartref i ddiwylliant y Ffangiaid, grŵp ethnig sy'n adnabyddus am ei dawnsiau a'i chelf dradoddiadol, yn arbennig ei masgiau trawiadol.